
Beth am yr enwog Owain Glyndŵr?
Ydy Owain yn bwriadu ymgeisio am swydd fel nawddsant?
Mae’n dibynnu.
Mae e’n genfigennus iawn o agorwr poteli Bryn Teribl, oherwydd nad yw Bryn wedi bod yn chwarae gydag Owain yn ddiweddar.
Ydy Owain yn ddigon call i fod yn sant?
Nac ydy, wir. Ond dyw’r mwyafrif o weithredwyr yn y byd ddim yn ddigon call i anadlu heb gymorth, felly dyna ni.
Yn anffodus, mae Daf y gath wedi bod yn ymyrryd, ac mae hi wedi anfon ffurflen i Rufain.
Fel canlyniad, mae Owain Glyndŵr newydd gael ei ethol fel Pab.