1353: Ailymgeisio

Mae Daf y gath am wneud ymgais am fod y nawddsant wyau.

Mae newyddion brawychus wedi cyrraedd Crymych. Mae’r Esgob wedi diswyddo’r seintiau i gyd a dweud bod rhaid iddyn nhw ailymgeisio am ei swyddi eu hunain.

Ond bydd cystadleuaeth agored hefyd. Felly bydd hi’n bosib i bawb ymgeisio am nawddseintiolaeth wahanol.

All pobl ac anifeiliaid sy’ ddim wedi cael ei ganoneiddio wneud ymgais?

Yn sicr. Mae’r Esgob am roi ysgytwad i sylfeini’r eglwys.

Oni ddylai’r pab fod â rhan yn y cynllun?

Siŵr o fod, ond mae’r Esgob yn hoff iawn o fynd oddi ar y sgript.

Mawredd.

Mae Daf y gath am wneud ymgais am fod y nawddsant wyau. Yn anffodus dyna uchelgais Santes Dwynwen, Dewi Sant a Jeff y gath hefyd.

Dyw Santes Clare ddim yn hapus o gwbl. Hi yw’r nawddsant wyau cyfredol, a dyw hi ddim am ildio’n hawdd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.