Mae Jeff y gath yn rhy boeth. Fel arfer, mae hi’n enjoio torheulo. Ond dim heddiw. Mae hi’n teimlo fel bod rhywun wedi ei rhoi hi yn y ffwrn am hanner awr. — Jeff, Jeff, mae syniad ‘da fi! medd Daf y gath. — Rhy boeth, ymetyb Jeff. — Cer i grafu. — Beth am…
Month: July 2025
1314: Ble mae Dewi Sant?
Ble mae Dewi Sant? Ydy e yn y cwpwrdd? Nac ydy. Ydy e yn yr oergell? Nac ydy. Ydy e ym masged Daf y gath? Nac ydy. Daf y gath sydd ym masged Daf y gath. Ydy e ym mlwch crafu Jeff y gath? Ydy! Mae e wedi pasio mas eto ar ôl yfed potel…
1313: Te
Yn neuadd y pentre, mae Iog-Sothoth wedi gwneud y te wedi’r cyfan. Mae Cthŵlhŵ yn gwneud y coffi. Mae’r siogothiaid yn drifftio o gwmpas yr ystafell yn ddibwrpas. Mae Daf y gath yn cysgu. Ble mae Mrs. Puw? Mae hi y tu fewn i siogoth. Mawredd. All hi anadlu? Na all. Mae hi wedi ei…
1312: Pwno
Beth mae Bryn Teribl yn wneud? Mae e’n pwno ei efell, yr enwog Owain Glyndŵr. Beth mae Owain wedi ei wneud i haeddu hynny? Dim byd. Roedd Bryn am gael bach o hwyl, dyna i gyd. Mae un o siogothiaid Cthŵlhŵ yn troi lan yng nghwmni Daf y gath. Mae Daf y gath newydd ddihuno,…
1311: Iog-Sothoth
Mae Iog-Sothoth wedi troi lan yng Nghrymych. Pwy yw e? Tad-cu Cthŵlhŵ, hen dduw arall, yw e. Mawredd. Ydy e am ymuno cangen leol Merched y Wawr hefyd? Ydy. Ymddengys yr oedd penderfyniad llywodraeth Lloegr i ddeddfu yn erbyn Merched y Wawr yn un call wedi’r cwbl. Ond am y rheswm anghywir, yn ôl eu…
1310: Cyfarfod
Mae aelodaeth cangen leol Merched y Wawr wedi ymgynnull yn neuadd y pentre, Crymych. Pwy sy wedi dod? Dyma Mrs. Puw a’i het oren gron. Bydd Mrs. Puw yn gweithio’r te. Dyma Mrs. Jenkins Ffarm y Gromlech. Mae Mrs. Jenkins yn trefnu’r raffl. Dyma Jeff y gath. Bydd Jeff y gath yn lladd llygod nes…
1309: Siogoth
Digwydd bod, mae’r hen dduw Cthŵlhŵ wedi dod â sawl siogoth o’r isfyd i Grymych. Sut greadur yw siogoth? Mae siogoth fel wompyn o laca â llwyth o lygaid yn arnofio ar ei wyneb. Maen nhw’n anferth. Maen nhw’n mesur o leiaf pymtheg troedfedd ar eu traws. Mawredd. Faint ohonyn nhw mae Chlŵlhŵ wedi dod…
1308: Cthŵlhŵ
Does neb yn poeni am driawd rap Daf y gath bellach. Mae Bryn Teribl wedi ei gael yn ddieuog, hyd yn oed. Beth sydd wedi digwydd, ‘te? Mae Cthŵlhŵ wedi gadael yr isfyd a chyrraedd Crymych. Mawredd. Fydd cyhoeddwyr H. P. Lyfcrafft yn grac? Siŵr o fod. Ond nid yw Cthŵlhŵ yn anifail anwes i…
1307: Terfysg
Mae grwpiau rap wir yn beryglus iawn, on’d ydyn nhw? Ydyn. Er enghraifft. Mae Bryn Teribl wedi troi lan ar gyfer ei ymddangosiad gerbron y llys mewn crys-T Merched y Wawr arall. Mae e’n chwifio baner â’i wyneb ei hunan arni. O diar. Mae tyrfa wedi ymgasglu y tu allan i’r llys, ac mae Jeff…
1306: Llys
Mae’r heddlu wedi arestio Bryn Teribl am wisgo ei grys-T Merched y Wawr, sydd bellach yn sefydliad anghyfreithlon yn ôl deddfwriaeth llywodraeth Lloegr. Bydd rhaid iddo fe ymddangos o flaen ei well. O diar. Mae Daf y gath yn manteisio ar y sefyllfa a rhyddhau record newydd o’r enw “Ynfytyn mewn Cadwyni” ynghyd ag ystod…
