Mae llofruddiaeth wedi bod!
O diar. Pwy sy’ wedi cael eu llofruddio?
Does neb a ŵyr.
Ond mae gwaed dros y lle i gyd.
Efallai bod Bryn Teribl wedi llofruddio Owain Glyndŵr.
Nac ydy. Mae Owain yn yr ardd yn chwarae gyda Cthŵlhŵ.
Efallai bod Dwynwen wedi llofruddio Dewi Sant.
Nac ydy. Mae Dewi Sant yn cael amser da ar daith seicedelig yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.
Mae’r Arolygydd yn ymchwilio.
Yn sydyn, mae e’n clywed crensian.
Dyma Jeff y gath yn llyncu rhywbeth blewog. Hi yw’r llofruddiwr!
— EUOG! medd yr Arolygydd. Bant â Jeff i’r carchar.

Saesneg / English
Murder
There has been murder!
Oh dear. Who has been murdered?
Nobody knows.
But there is blood all over the place.
Bryn Teribl may have murdered Owain Glyndŵr.
No. Owain is in the garden playing with Cthulhu.
Dwynwen may have murdered Saint David.
No. Dewi Sant is having a good time on a psychedelic trip in the Other Crymych beyond the horizon.
The Inspector investigates.
Suddenly, he hears a crunch.
It’s Jeff the cat swallowing something furry. She is the murderer!
— GUILTY! said the Inspector. They took Jeff to prison.