Mae Daf y gath yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi wedi bod yn canu’n gyson, ond dyw hi ddim yn hoff iawn o’r darnau gosod. Cath jazz yw Daf. Felly mae hi’n efelychu Ella Fitzgerald, neu dyna beth mae hi’n feddwl. Mewn gwirionedd, mae hi’n swnio fel llyffant yn cael ei ladd…
Category: Cyfresi
Fan Newydd, rhan 3
Mae Daf y gath yn chwilio am fan newydd, er mwyn iddi hi ailddechrau ei dosbarthiadau. Doedd yr Archfadarch ddim llawer o help. Doedd yr Archfadarch ddim lot i help o gwbl. Ond, wedi’r cwbl, mae Daf wedi dod o hyd i fan newydd ar ei phen ei hunan o’r blaen. – Daf, ‘drych! ebycha…
Fan Newydd, rhan 2
Mae’r Archfadarch wedi bod yn rhannol lwyddiannus. Ar ôl iddo fe wneud ei ddefod hudol, mae ysbrydion Ryan Davies a Harry Secombe yn sefyll yn yr ardd. Mae ysbryd Ryan Davies yn dechrau canu “Myfanwy”. Mae ysbryd Harry Secombe yn dechrau canu emyn, gyda thrac sain cawslyd. – Alla i ddim dioddef hyn. Bydd rhaid…
Fan newydd
Mae’r Archfadarch wedi bod yn brysur. Mae e wedi casglu sawl crisial, amrywiaeth o berlysiau, a channwyll. Mae e ar fin perfformio defod hudol pan mae Daf y gath yn ymddangos. – Beth wyt ti’n wneud? meddai Daf. – Galw ysbrydion, meddai’r Archfadarch. – Ysbrydion pwy? gofynna Daf. – Dafydd Iwan a Max Boyce. –…
Pererindod, rhan 4
Cyrhaeddodd y pererinion y siop DIY. Roedd eu pererindod bron ar ben. – Gwyrth yw e, gwyrth yw e mae ‘na deils teils teils dwi isie teils, meddai Draig y ci. – Gwyrth? Mae jyst digon o stoc ‘da nhw, ymatebodd Mistar Pysgodyn Groovy. – Na, gwyrth yw e gwyrth yw e. – Pwy nath…
Pererindod, rhan 3
Gadawodd y pererinion. Yn syth, fe ddaethant o hyd i rwystr. – Helo, meddai’r rhwystr. – Helo, meddai Draig y ci. – Bachgen da dw i dwi’n mynd ar bererindod ar bererindod i brynu teils. – On’d yw pererindodau i fod yn fwy ysbrydol na hynny? gofynnodd y rhwystr. – Ydyn, meddai Mistar Pysgodyn Groovy….
Pererindod, rhan 2
Ar ôl pacio sach cefn â phethau hanfodol fel het, menig, dillad glaw a map, sylweddolodd Mistar Pysgodyn Groovy nad oedd modd iddo wisgo sach cefn, het, menig na dillad glaw. Ac nid oedd ganddo ddwylo, felly ni fyddai map yn lot o help. Doedd e ddim yn hollol sicr sut yr oedd e wedi…
Pererindod, rhan 1
Un tro, roedd Mistar Pysgodyn Groovy wedi penderfynu mynd ar bererindod. – Wyt ti’n grefyddol, ‘te? gofynnodd Jeff y gath, a oedd yn llowcio ei seithfed brecwast. – Nadw, dwi jyst isie neud rhywbeth cyffrous, atebodd Mistar Pysgodyn Groovy. – Mae popeth mor ddiflas a disynnwyr fan hyn. Ac mae gormod o fflwff Daf ym…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 5
Unwaith iddyn nhw gyrraedd y blaned Mawrth, sylweddolodd Daf taw Jeff oedd yn hollol gywir. Doedd dim bwyd. Roedd llwch ym mhobman, a diffyg llwyr o catnip. Ac nid oedd dim ond un tun o fwyd cathod ganddynt, er mwyn cadw’r pwysau’n isel. – Be ni’n mynd i neud nawr? gofynnodd Jeff. – Sai’mod, sdim…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 4
– Dwi’n gwbod be sy’ angen, meddai Daf ar ôl iddi ddihuno’n llwyr. – Beth? ymatebodd Jeff. – Mwy o fflwff. Byddai’r roced yn gweithio’n well gyda mwy o fflwff. – Da iawn. Felly, ychwanegodd Daf maint arwyddocaol o fflwff i’r blwch cardbord, ac yna thanio’r injan. Roedd y roced yn swnio’n fwy effeithiol o…
