Parhâi Jeff i weithio ar ei CV hi. Sgiliau ac ansoddau hanfodol Gryf iawn am gyfathrebu mewn ffyrdd sydd yn addas i’w chynulleidfa – gan amla i berswadio’r staff, neu Dewi Sant, i’w bwydo. Da iawn am floeddio er mwyn tynnu sylw, yn enwedig gyda meicroffon. Gweithredydd hyderus o ran hela. Meddyliwr cryf a chreadigol o…
Category: Cyfresi
Datganiad Personol Jeff (Chwilio am Waith, rhan 2)
Datganiad Personol – Jeff y gath Cath hyblg yr wyf, gan dros 7 mlynedd o brofiad o fwyta brecwestau a chiniawau cathod eraill, sydd yn angerddol am ddal llygod er mwyn eu rhoi fel anrhegion i’r staff. Rwyf yn mwynhau ffeindio dullau creadigol i ddwyn bwyd. Rwyf yn ymrwymedig i anwybyddu Daf y gath yn…
CV (Chwilio am Waith, rhan 1)
Un tro, roedd Daf wedi dechrau creu ei CV, gan yr oedd e wedi cael llond bola o Jeff, ac oedd eisiau cymryd rhan mewn rhai straeon eraill arno. Dygai ei frecwast yn barhaol. Ac ei ginio. Ac ei swper. – Be’ ti ‘neud? meddai Jeff, wrth iddi sylwi ar Daf yn gweithio ar ei…
Plymio – rhan 3
Aeth y drewdod a oedd yn dod o sied Dewi Sant o ddrwg i waeth. Roedd y madarch yn cysgodi o dan y ddaear, tra oedd Santes Dwynwen yn rhedeg o gwmpas yr ardd mewn arswyd. Erbyn hyn, roedd hyd yn oed ei chwstard wedi dechrau blasu o’r pydredd. – O na, meddai Dewi Sant,…
Plymio – rhan 2
Treuliodd Daf y gath sawl diwrnod ar y ffôn, ond, o’r diwedd, daeth plymwr o’r cwmni yswiriant. Hen ddyn heb ddannedd oedd e, gyda chap pêl-fas, a golwg methedig arno. Baglodd i fewn i sied Dewi Sant. – Mae popeth yn drewi, meddai’r plymwr. – Ydy, atebodd Daf, – Dyna be’ wedes i ar y…
Plymio – rhan 1
Roedd Jeff y gath wedi aros sawl dydd am rif ffon plymwr. Hi oedd wedi anfon y llythyr olaf wrth y Corinthiaid; er bod sied Dewi Sant yn drewi ar ôl ymweliad yr esgob a’i goludd, roedd Dewi wedi meddwi’n ormod i sylwi. Daeth panasen Kafka draw. – Alla i helpu? gofynodd y panasen. –…
Ail Lythyr Dewi Sant at y Corinthiaid
Annwyl Corinthiaid, Daeth yr esgob draw fan hyn wythnos diwetha, yr hen ynfytyn. Yn anffodus mae hynny yn golygu y bydd rhaid imi ail-wneud y plymio trwy’r sied yn gyfan gwbl. Fyddet ti ddim yn dychmygu y gallai coludd un dyn yn achosi cymaint o lwgr, a phan ddechreuodd popeth ollwng – ond byddai’n well…
Y Dosbarthiad
Dihunodd Dewi Sant yn hwyr. Roedd e wedi cael noson hir o ddiodydd cryfion gyda Santes Dwynwen, a oedd nawr yn anymwybodol mewn cornel o’r ardd. Agorodd drws ei sied a gweld pentwr mawr o focsys. – Be’ sy’…? meddyliodd, cyn iddo weld amlen. Dechreuodd ddarllen. Annwyl Dewi, Diolch am eich llythyr, a oedd bach…
Fan Newydd Daf – rhan 3
Roedd Jeff y gath yn yrrwr arswydus o ddrwg. Doedd hi erioed wedi gyrru sied o’r blaen, ac roedd y sied hon yn un gyflym iawn. – Ti’n beryglus, t’mod, meddai Daf, wrth iddi daro’r ddau flwch post y pentre (un ar gyfer pobl llawchwith, un ar gyfer pobl llawdde). Trodd Jeff y gornel. Taflodd…
