Er ei fod e’n niwsans, mae’r cathod yn poeni am Samuel Beckett. Dydyn nhw ddim yn hoffi’r gwesty cathod gan nad yw hi’n bosib iddyn nhw fynd mas yn yr heulwen pan yr ydyn nhw yno. ‘Dyn nhw ddim yn gwybod bod Samuel Beckett yn cael amser braf mewn lle tynn. Mae Daf yn gwneud…
Category: Cyfresi
Trîts
Mae Samuel Beckett yn mwynhau bod yn y gwesty cathod achos ei fod e’n hoffi llefydd tynn. Hefyd, mae’n debyg ei fod e’n hoff iawn o drîts cathod. Mae perchennog y gwesty cathod yn rhoi Dreamies iddo fe bob yn ail awr. Mae Samuel Beckett yn eu bwyta nhw’n farus. Mae Samuel Beckett yn hapus…
Gwesty
Bydd y cathod yn mynd i westy cathod, achos bydd y staff yn mynd bant ar eu gwyliau, ac nad ydyn nhw’n gallu ymddiried yn Dewi Sant i ofalu amdanyn nhw. Nid yw’r cathod yn gwybod hyn eto. Mae Jeff a Daf yn hela rhywbeth pan mae aelod o staff yn cyrraedd gyda blychau cario….
Byddin y selsig
Mae rhywbeth annisgwyl wedi digwydd. Mae selsig Franz Kafka (heblaw’r un a arteithiwyd gan Samuel Beckett) wedi dianc rhag eu paced nhw a ffurfio byddin. Am olygfa! Mae Samuel Beckett yn rhy brysur ypsetio’r Frenhines Branwen i sylwi bod byddin y selsig wedi’i amgylchu. Maen nhw’n clymu Samuel Beckett wrth gadair. Mae e’n cael ei…
Hela Samuel Beckett
Mae Jeff wedi creu trap ar gyfer Samuel Beckett. Ond, fel bod Dewi Sant yn gwybod yn iawn, mae temtasiynau Satan yn debyg i faglau sydd wedi’u gwasgaru ar draws llwybr tywyll. Ac mae’r staff wedi prynu blwch newydd o Dreamies. Yn sydyn, nid yw hela Samuel Beckett yn ymddangos mor bwysig bellach. Mae Samuel…
Hen ddigon
Mae pawb wedi cael hen ddigon o Samuel Beckett a’i driciau. Mae e wedi bod yn pasio’r amser wrth weiddi ar fanana. Wrth iddo fe symud ymlaen i haslo’r tatws, mae Jeff y gath yn paratoi ei ymgyrch. Mae hi’n mynd i ddelio â Samuel Beckett yn yr un ffordd ag y deliodd hi â…
Yr Argyfwng Beckett
Yn yr ardd, mae Samuel Beckett yn achosi problemau anferth. Mae e wedi claddu Santes Dwynwen i lan i’w gwddf mewn pentwr compost. Mae e wedi gwneud i’r madarch deimlo’n isel iawn gan ddarllen cerdd addrodus, ddiflas dro ar ôl tro. Mae e wedi clymu Dewi Sant wrth gadair ac arllwys ei frandi dros y…
Arteithio
Mae hunllef Franz Kafka wedi dod yn wir. Dyma Samuel Beckett yn yr ardd. Mae Samuel Beckett yn chwerthin ar ben Franz Kafka. Mae Samuel Beckett yn dwyn un o selsig Franz Kafka a’i arteithio gan arllwys dŵr berwedig arno fe o dan sbotlamp gref. Yna, mae Beckett yn torri’r selsigen yn ei hanner gyda…
Gwlychu’r gwely
Mae Franz Kafka wedi cael hunllef a gwlychu’r gwely. Yn ei hunllef oedd Samuel Beckett yn chwerthin ar ei ben am fod Franz Kafka yn canolbwyntio gormod ar ei selsig i fod yn awdur da. Cymerodd Samuel Beckett un o selsig Franz Kafka a’i arteithio. Am hunllef ofnadwy. Druan ar Franz Kafka. Saesneg / English…
Maes BC
Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff wedi mynd i’r Eisteddfod. Mae Jeff yn dechrau chwilio am Faes BC yn syth ar ôl iddyn nhw gyrraedd safle’r Eisteddfod. – Jeff? meddai Daf. – Beth? – Dwi’n gwbod yn iawn beth yw Maes B. Ond beth yw Maes BC? – Maes Bwyd Cathod, y dwpsen. Saesneg…
