Mae Daf y gath wedi dechrau menter newydd. Mae hi’n gwerthu afancod ar-lein. Erbyn hyn mae hi wedi gwerthu pump ohonyn nhw. Does dim ond pum cant ar ôl. Heddiw mae hi wedi gwerthu afanc i ficer neis yn Lloegr. – Beth mae ficer yn mynd i wneud gydag afanc? gofynna Jeff y gath. –…
Category: Cyfresi
Afancod
Mae cannoedd o afancod yn yr ardd. Maen nhw’n cnoi popeth, yn gynnwys sied Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn ceisio eu heidio nhw. – Beth sy’n mynd ymlân fan hyn? gofynna Daf y gath. Mae Dewi Sant yn oedi, wrth dynnu ar ei sigarét. – Mae gen i gynllun, meddai ef. – Yr ydwyf…
Ailymddangosiad, rhan 4
Mae Sant Padrig wedi bod yn garedig iawn. Mae e wedi postio paced o falltod, gyda chyfarwyddiadau, at Dewi Sant er mwyn cael gwared ar y tatws, yn enwedig y cyn-Brifdaten. Mae Dewi Sant yn gwasgaru’r malltod dros wely’r tatws ac aros. Cyn bo hir, mae tawelwch. Cyn bo hir, does dim anrhefn bellach. Cyn…
Ailymddangosiad, rhan 3
Dyw cynllun Daf y gath ddim wedi gweithio. Roedd hi’n bwriadu boddi’r tatws i gyd – yn gynnwys y cyn-Brifdaten – yng nghwstard Santes Dwynwen, ond roedd y tatws wrthi’n cynnal derbynfa diodydd rywle arall. – Fe wna i ffonio Sant Padrig, meddai Dewi Sant. – Bydd e’n gwybod beth i’w wneud. Mae Dewi Sant…
Ailymddangosiad, rhan 2
Mae’r cyn-Brifdaten wedi ailymddangos. Mae popeth ar dân, ac yn y blaen. Mae Dewi Sant wedi dechrau gweddïo, hyd yn oed. Ond mae Daf y gath yn mynd i stopio’r tatws a’u hanrhefn. Mae hi’n neidio i’w fan a gyrru’n gyflym iawn at iard yr adeiladwyr, lle mae hi’n prynu llwyth o frisblociau. Yna, mae…
Ailymddangosiad, rhan 1
Mae’r cyn-Prifdaten wedi ailymddangos. On’d oedd e wedi ei stwnsio? Efallai. Efallai dim. Erbyn hyn, mae e’n meddwl taw fe sydd yr ymgeisydd a all achub y byd. Ond mewn gwirionedd, mae e’n daten digywilydd, gwacsaw. Rhech mewn pot jam. Bag bin o gwstard. Ac yn y blaen. Ond mae’n debyg nad oes pŵer gan…
Economeg, rhan 4
Mae’r Prifdaten wedi rhoi’r gorau ar fecso am yr economi. Pwy welai bai arni? Mae hi’n syllu ar y nefoedd a dweud dim byd. Llo cors yw hi. Erbyn hyn, mae ei ffrindiau i gyd yn gyfoethog iawn. Am syndod! Mae Daf y gath wedi rhoi’r gorau ar gael profiad seicedelig. Does dim arian ar…
Economeg, rhan 3
Dyw’r prifdaten ddim yn cuddio bellach. Ond mae hi’n gwneud y nesaf peth i ddim. Mae hi’r gwrthod gwrth-droi ei phenderfyniadau. Mae hi’n benderfynol taw tancio’r economi yw’r peth iawn i’w wneud. Erbyn hyn, mae Dewi Sant yn methu fforddio’r morgais ar ei sied. Mae e’n gwerthu’r sied i landlord Air B&B a mynd i…
Economeg, rhan 2
Mae’r Prifdaten wedi tancio’r economi. Mae Jeff y gath eisiau bwydo’r Prifdaten ag olion cwstard Santes Dwynwen er mwyn ei rhwystro rhag achosi rhagor o niwed. Ond mae’r Prifdaten wedi diflannu! Ble mae’r Prifdaten? Yn yr oergell? Nac ydy! Yn sied Dewi Sant? Nac ydy! Yng ngwely’r rhosod? Nac ydy! Mewn gwirionedd mae hi’n cuddio…
Economeg
Mae gan bawb yn yr ardd broblem fawr. Mae’r Prifdaten wedi tancio’r economi. Erbyn hyn mae bwyd cathod yn costio pum cant o bunnoedd y bocs. Mae powdr cwstard yn costio mil o bunnoedd y twb. – Mae rhaid i ni ei rhwystro rhag gwneud rhagor o niwed, meddai Jeff y gath i’w chwaer Daf….
