Un tro, ar ôl i Keith y gowrd ddinistrio’r Prifdaten a’i fyddin, roedd y madarch yn gorymdeithio o gwmpas yr ardd. Jyglai’r hanner-siarc â grenadau, ac roedd Santes Dwynwen wrthi’n paratoi coctêls Molotof o gwstard ffrwydrol sbesial. Roedd yn amlwg bod rhywbeth ar fin digwydd. Ac yna, digwyddodd. Gyrrodd Daf y gath i mewn i’r…
Category: Cyfresi
Gwobr (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan olaf)
Pasiodd amser. Roedd pawb bron wedi anghofio am y gystadleuaeth. Chwaraeai Draig y ci gyda Mistar Penglog, osgoai Jeff Mistar Pysgod Groovy, a pharhâi Santes Dwynwen i wneud mwy o gwstard na allai unrhyw un ddefnyddio. Un tro, ymddangosodd fan. Dadlwythwyd pentwr o flychau o fwyd cathod. – Aha, meddai Jeff y gath, – dyma…
Ymgais y Prifdaten (Y Gystadleuaeth Lenyddol, Rhan 12)
NID WYF YN CYMERADWYO CYSTADLU. MAE EISIAU ARNAF CWYNO AM YR HOLL FENTER. YR YDWYF YN GWRTHWYNEBU Y CYSYNIAD O GYSTADLAETHAU LENYDDOL SYDD YN CYNNIG ARIAN. MYND YN ERBYN EWYLLYS DUW YR YDYCH. DOES DIM GYDA FI DIM BYD ARALL I DDWEUD WRTHOCH. EDIFARHEWCH! EDFARHEWCH!
Ymateb y panel i ymgais Keith y Gowrd (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 12)
[Aeth yr Esgob yn dawel pan welodd yr “ymgais”, ac wedyn yn wyllt gacwn. Â wyneb coch, dyrnuodd y wal a thaflu’r darn gwag o bapur ar y tân, wrth weiddi rhywbeth am ladd cathod yr ardal i gyd. Daf yn enwedig. Fyddai ddim o le rhagor i gathod fel Daf yn ei esgobaeth.] [bg_collapse…
Ymgais Keith y Gowrd (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 11)
. [Eisteddodd Keith y gowrd am sbel heb ddweud unrhyw beth ar ôl i Daf y gath ddweud wrtho am y gystadleuaeth. Efallai’r oedd yn ystyried beth i’w ysgrifennu. Efallai dim. Yn y pen draw, nid oedd dim byd ar ei ddarn o bapur. Naill ai campwaith minimalaidd oedd e, neu… ddarn gwag…
Adolygiad y Panel o Ymgais yr Hanner-Siarc (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 10)
“Does dim gyda jyglo unrhyw beth i ymwneud â chystadlaethau llenyddol o gwbl. Ffugenw hollol chwerthinllyd ydy ‘Hanner-siarc’. Yr ydym yn dechrau credu bod yr ymgeiswyr i gyd yn gwawdio’r traddodiad o gystadlaethau celfyddydol. Hefyd, yr ydym yn drwgdybio bod y Daf hwn yn gyfrifol am bopeth. Byddwn yn ymgynghori â’r Esgob am benderfyniad. Ond…
Ymgais yr Hanner-siarc (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 9)
Y Gystadleuaeth Lenyddol gan Siarc (Hanner) We fi tu fas ar y pryd. Jyglo yn yr ardd. Pan nath y daflen gyrredd. O taflen fach, meddylies i, be ti neud fan hyn? We fi methu darllen hi, ‘thgwrs. Nid achos fi’n siarc. Nid achos fi di cal n haneru. Achos bo fi’n jyglo. Rhaid i…
Adolygiad y Panel o Ymgais Santes Dwynwen (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 8)
“Mae’r ymgeisydd wedi camddeall teitl a nod y tasg yn gyfan gwbl. Ond, serch hynny, ceisiasom dilyn y resàit gan ei fod wedi gwneud ymdrech amlwg. Roedd y canlyniadau’n ofnadwy, er llwyddodd yr Esgob i fwrw ei gymydog ar ei ben gyda sosban lawn o gwstard ar ôl iddo’i thaflu dros y ffens. Gofynasid yr…
Ymgais Santes Dwynwen (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 7)
Cwstard llaeth llenyddol – rysáit Cynhwysion: powdr cwstard – twb llaeth cyfan – litr llaeth cywasgedig trwchus – tun hanner copi o War & Peace Paratoi Arllwyswch y llaeth cyfan a’r llaeth cywasgedig i mewn i sosban, yn oer. Ychwanegwch y powdr cwstard, a’i droi. Berwi’r cyfan, ac wrth i’r cymysgedd dewychu, ychwanegwch yr hanner…
Adolygiad y Panel o Ymgais Franz Kafka (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 6)
“Roedd y panel yn synnu at dderbyn ymgais wedi’i ysgrifennu ar bac o selsig. Dyna ddatblygiad newydd. Mae’r awdur hwn yn amwlg yn brofiadol iawn – doedd dim bratiaith – ond erbyn diwedd ei ddarn, roeddem yn hapus iawn i gydymffurfio gyda’i gyfarwyddiadau, a llosgi’r peth i ulw. Rydym wedi colli gobaith yn gyfan gwbl.”
