Ma Jeff y gath yn chwilo am yr enwog Owain Glyndŵr; sneb ‘di weld e ers tro byd.

— Ti ‘di clywed gan Owain? medd Jeff wrth Daf. — Wen i’n meddwl byse fe’n ymddangos fel rhech annymunol unweth i’r straeon ail-ddechre.
— Nadw, medd Daf, — ond fe weles i un o’i sgidie’n rhywle. Wê tato’n tiddu ynto fe.
So ble ma Owain, yn harwr ni?
Digwydd bod, ma fe nowi gâl mynedfa i sied fridio Harri Benwyn, y ffasgydd uffernol, ac yn wâth fyth, ma fe’n gwisgo drag.