Beth mae Harri Benwyn a’i ffasgwyr ‘di neud gida’n hannwl ffrind Bryn Teribl? So Daf a Jeff ‘di weld e ers misoedd.

Sdim caniatâd i neb gifeirio at bethe negyddol yn y Crymych Ffasgaidd Newydd dim mwy, felly ma fe ‘di gorfod newid ‘i enw.
— Bryn Disglair fyddwch chi o hyn ymlaen, meddai Harri Benwyn yn rhwysgfowr.
Ond camddiall nath Bryn, wth gwrs, ac ma fe ‘di dechre galw ‘i hunan Bryn Dishgled.
Ynfytyn llwyr yw e o hyd. Sdim dwyweth amdani.