Ma Harri Benwyn, i fasgydd uffernol, ‘di penderfynu bydd angen mwy o gifrifoldeb in i Crymych Fasgaidd Newydd.

Beth ma hinny’n meddwl?
Sneb in gwbod, ond ma un peth in sicr: wedd ir hen Grymych yn anhrefnus tu hwnt, a wedd na ddim digon o bwyllgore.
Ma pob fasgydd bach in drichid mlan at ‘i bwyllgore, wedi’r cwbwl.
Ma hyd yn wêd i cathod ‘di câl ‘u gorfodi i finichu un o bwyllgore Harri. Nath Daf y gath wfftan ir holl beth, trio datgysylltu’n feddiliol, byta cwpwl o Dreamies seicedelig, a mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Ond i tro dwetha iddi drio hinny, wedd y Crymych Arall ar gau am y tro cinta ariôd, a wedd in rhaid iddi wrando ar ryw rybish am glirio’r stridodd o bobl grwenwyrdd.
Cododd ‘i phawen.
— Ond so pobol grwenwyrdd in bodoli, meddai Daf. — Ti’n neud e lan.
— YDYNT! MAENT YN BODOLI AC Y MAE ARNYNT EISIAU CYMRYD EICH SWYDD! taranodd Harri Benwyn, ‘i laish in crynu â dicter.
— Ble ma nw te? gofinnodd Daf. — Sana i’n gweld monyn nw.
Bu bron i Harri Benwyn hala Daf i’w wersyll-garchar gore in i fan a’r lle ond in lle hinny, penderfynodd ar gosb arall. Byse rhaid i Daf weithredu fel ysgrifeniddes i gyd o bwyllgore ffasgaidd Harri.