1327: Harri Benwyn

O diar, be sy ‘di digwydd fan hyn, ‘te? A pam fod yr awdur yn sgwennu in ‘i dafodieth e?

Sai’mod. Ond ma pethe di gwaethygu yn y Crymych go iawn, dina sicrwydd. Ma staff nowi Daf a Jeff ‘di câl ‘u harestio a thowlu in i carchar oherwydd bo nw ‘di gweud rhywbeth anweddus am Penneth Nowi Crymych, sef Harri Benwyn, ffasgydd uffernol.

So, ma’r cathod ‘di gorfod bwydo’u hunen in ddiweddar, sy’n iawn i Jeff, ond wrth gwrs, ma Daf yn anobeithiol am hela. Er bod Jeff ‘di bod yn ladd bron i unrhyw beth sy’n symud, dim ond cwpwl o dunie rhidlid o bysgod ma Daf ‘di byta ers tro. Ma hi ‘di blino’n shwps ac in drichid in nacyrd.

Ble ma Santes Dwynwen?

Jiwjiw, dina arswyd. Ma Harri Benwyn ‘di sefidlu gorsaf fridio yng Nghrymych ac ma fe ‘di bod yn corlannu holl seintie Cymru i’w llenwi. Pwr a ŵyr pa iws fydd rhywun mor anrhywiol a’r annwyl Santes Dwynwen iddo fe ond ma hi dan glo serch hinny.

Ble ma Dewi Sant?

Dina arswyd arall. Yn amlwg sdim pwynt trio neud iddo fe fridio felly ma fe miwn labordy yn câl ‘i orfodi i ddiodde arbrofion amrywiol ar ‘i iau a’i galon. Ma’r pwên yn eithafol. Ma’r bŵs yn absennol.

So beth yw’r cynllun? Wes ‘na octopws o dan y gwely o hyd?

— Na wes, medd Daf. — Yn bennaf o achos na wes gwely dim mwy.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.