Does neb yn poeni am driawd rap Daf y gath bellach. Mae Bryn Teribl wedi ei gael yn ddieuog, hyd yn oed.
Beth sydd wedi digwydd, ‘te?
Mae Cthŵlhŵ wedi gadael yr isfyd a chyrraedd Crymych.
Mawredd. Fydd cyhoeddwyr H. P. Lyfcrafft yn grac?
Siŵr o fod.
Ond nid yw Cthŵlhŵ yn anifail anwes i neb. Fel Daf y gath.
Sut olwg sydd ar Cthŵlhŵ?
Golwg gwbl ddychrynllyd. Mae e’n edrych yn waeth na Dewi Sant wedi potel o fodca, ond gydag adenydd a thentaclau.
Mawredd.
Fel un o’r hen dduwiau, beth mae Cthŵlhŵ yn bwriadu gwneud yng Nghrymych?
Mae e’n bwriadu ymuno cangen leol Merched y Wawr.

Saesneg / English
Cthulhu
No one cares about Dave the Cat’s rap trio anymore. Bryn Teribl has even been found not guilty.
What has happened, then?
Cthulhu has left the underworld and arrived in Crymych.
Crikey. Will H. P. Lovecraft’s publishers be angry?
Probably.
But Cthulhu is nobody’s pet. Like Dave the cat.
What does Cthulhu look like?
An absolutely terrifying sight. He looks worse than St David after a bottle of vodka, but with wings and tentacles.
Crikey.
As one of the old gods, what does Cthulhu intend to do in Crymych?
He plans to join the local branch of Merched y Wawr.