Mae Santes Dwynwen wedi bod yn cael cyngor am ymddygiad yr hen Esgob, a roddodd ei blwyf i’r enwog Bryn Teribl, er ei fod wedi ei addo iddi hi. At bwy mae hi’n troi am gyngor? Yr enwog Julian Cope, dyna bwy. Am lawenydd! Ydy’r enwog Julian Cope wedi dod yn ôl i’r plwyf? Nac…
Month: June 2025
1291: Bedydd tân
Fel yr Esgob newydd, mae’r enwog Bryn Teribl wedi penderfynu bedyddio ei efell, yr enwog Owain Glyndŵr. Mae e’n mynd i ddefnyddio bath tun y daeth e o hyd iddo yn sied Dewi Sant. Ydy hynny’n gall? Nac ydy. Mae dŵr yn codi ofn parlysol ar Owain Glyndŵr. Fydd e’n boddi? Siŵr o fod. Mae’r…
1290: Bradychiad
Mae Bryn Teribl yn mwynhau gwneud swydd yr Esgob. Mae e’n taflu dŵr sanctaidd o gwmpas y lle a gweiddi bob hyn a hyn, ynghyd â dweud pethau sy’n swnio’n gall ond sy’n nonsens llwyr mewn gwirionedd. Ydy Daf y gath yn mwynhau gwneud swydd archddiacon? Ydy. Ymddengys bod archddiaconiaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u…
1289: Ymddeoliad
Mae’r Esgob wedi cyhoeddi ei fod e’n mynd i ymddeol! Am lawenydd! Bydd Dewi Sant mor falch o gael gwared arno fe. Dim ond trafferth mae’r Esgob wedi bod. Ond dyn ni gyd yn gwybod beth sy’n digwydd pan mae esgobion yn ymddeol. Mae Esgob arall yn barod i gamu i’r llwyfan. O diar. Fydd…
1288: Gwyliau
Mae Dewi Sant am fynd ar ei wyliau. Mae e wedi cael hen ddigon o ddelio â’r Esgob. Mae e wedi bwcio lle glamping. Dyw e ddim yn gwybod beth ydy glamping, ond roedd e’n rhy hwyr i fwcio gwesty. Sôn am westai, dyw Daf y gath ddim am fynd i’r gwesty cathod. Dim o…
1287: Rhufeiniaid
Mae Nefil, y cymydog newydd, ac Owain Glyndŵr ar eu ffordd i Gaer mewn coets. Mae pawb arall ar y goets yn disgwyl gweld yr eglwys gadeiriol ac ymweld â’r siopau annibynnol. Mae Nefil yn edrych ymlaen at roi cweir ar y Rhufeiniaid. Ond ble mae’r Rhufeiniaid? Mae grŵp o ddaear-wastadwyr yn dosbarthu taflenni yng…
1286: Taith i Gaer
Yn annisgwyl, mae’r enwog Owain Glyndŵr a Nefil, y cymydog newydd, wedi dod yn ffrindiau agos. Dyna lyfli. Mae Nefil wedi bwcio taith mewn coets iddyn nhw i Gaer, fel eu bod nhw’n gallu rhoi cweir ar y Rhufeiniaid. Mawredd. Beth mae Nefil yn mynd i’w ddefnyddio i roi cweir ar y Rhufeiniaid? Mae Nefil…
1285: Cymydog
Mae rhywun newydd wedi symud i mewn y drws nesaf i’r ganolfan grefft. Dyn byr yn ei henaint yw e. Pwy yw e? Dyma Nefil. Mae Owain Glyndŵr yn licio Nefil yn fawr iawn, oherwydd ei fod e’n gallu chwarae “Mae’r Haul yn Gwisgo ei Het” ar yr organ sy’n sefyll yn erbyn y wal…
1284: Cwympo mas
Mae’r enwog Bryn Teribl a’i efell Owain Glyndŵr wedi cwympo mas. Maen nhw’n dweud pethau cas am ei gilydd. Wel, mae Owain Glyndŵr yn aneiriol ar hyn o bryd, felly dim ond Bryn Teribl sy’n dweud pethau cas. Mae e’n cyhuddo Owain Glyndŵr o bob math o gywilydd. Mae Bryn yn honni bod Owain wedi…
1283: Salwch
Mae bola tost gyda’r enwog Owain Glyndŵr. O diar. Ydy Owain wedi bod yn bwyta sigarennau Dewi Sant eto? Nac ydy. Ond yn anffodus mae e wedi bod yn bwyta bwyd Daf y gath. Nid yw Daf yn hapus o gwbl. Nid yw stumog Owain yn hapus chwaith. Mae Santes Dwynwen yn mynd i’r siopau…
