Fel yr Esgob newydd, mae’r enwog Bryn Teribl wedi penderfynu bedyddio ei efell, yr enwog Owain Glyndŵr. Mae e’n mynd i ddefnyddio bath tun y daeth e o hyd iddo yn sied Dewi Sant.
Ydy hynny’n gall?
Nac ydy. Mae dŵr yn codi ofn parlysol ar Owain Glyndŵr.
Fydd e’n boddi?
Siŵr o fod.
Mae’r enwog Bryn Teribl yn dechrau ei arwain tuag at y bath, ond mewn chwinciad, mae Owain Glyndŵr yn rhoi’r eglwys ar dân, fel canwr Metel Du o Norwy.
Mawredd yr adar.
Beth mae’r archddiacon yn ei wneud? Mae’r archddiacon, sef Daf y gath, yn chwydu mas tu fas.

Saesneg / English
Baptism of fire
As the new Bishop, the famous Bryn Teribl has decided to baptize his twin, the famous Owain Glyndŵr. He is going to use a tin bath that he found in Saint David’s shed.
Is that sensible?
No. Owain Glyndŵr has a paralyzing fear of water.
Will he drown?
Probably.
The famous Bryn Teribl begins to lead him towards the bath, but in a blink of an eye, Owain Glyndŵr sets the church on fire, like a Norwegian Black Metal singer.
Blimey.
What is the archdeacon doing? The archdeacon, namely Dave the cat, is throwing up outside.