Mae’r Esgob Bryn Teribl ar ei ben ei hun yn ei eglwys. Ar ôl i Santes Dwynwen adael, dywedodd Dewi Sant y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn sant hefyd. Dywedodd yr enwog Waldo Williams y byddai’n mynd yn ôl i’w bentre enedigol. Ddywedodd yr enwog Kate Roberts ddim byd, achos roedd hi’n rhy brysur…
Month: June 2025
1301: Gadael
Mae Santes Dwynwen wedi penderfynu cael egwyl fach rhag bod yn sant gan fod y gwaith yn ormod iddi. Ydy hynny’n bosibl, hyd yn oed? Yn ôl pob golwg, ydy. Felly mae hi’n bwriadu gadael yr ardal er mwyn treulio mwy o amser yn teithio. Efallai gwnaiff hi ymweld â’r enwog Julian Cope. Arhoswch am…
1300: Seddi
Mae Owain Glyndŵr wedi cael ei daflu mas o eglwys yr Esgob Bryn Teribl. Pam? Roedd e’n dawnsio ar y seddi yn ei arfwisg. O diar. Ydy’r seddi’n dal i fod yn un darn? Nac ydyn. Oedd Daf y gath wedi bod yn canu cerddoriaeth Robat Arwyn ar yr organ eto? Oedd. O, Daf. Dyn…
1299: Twll
Mae twll yn y llawr yn eglwys yr Esgob Bryn Teribl. Beth achosodd y twll? Pwy a ŵyr. Ond mae gwichiad achlysurol yn dod o’r twll. Mawredd. Arhoswch am eiliad. Pam mae Owain Glyndŵr yn gorwedd ar waelod y twll? A pham mae e’n gwisgo gwisg lygoden? Ai dyma ei ddiwygiad eglwysig? Dyw Daf y…
1298: Diwygiad
Mae’r Esgob Bryn Teribl wedi rhoi swydd newydd i’r enwog Owain Glyndŵr. Mawredd. Swydd arall? Ie. Bydd Owain Glyndŵr yn gyfrifol am ddiwygiad yr eglwys yng Nghymru. Beth am y capeli? Dylai fe ddiwygio’r capeli hefyd. Nid pwnc llosg yw dyfodol y capeli i’r Esgob Bryn Teribl. Pam hynny? Dyw Bryn Teribl ddim yn deall…
1297: Cerddi
Mae erthygl wedi bod yn y cyfyngau, yn gofyn i bawb chwilio am fwy o gerddi gan yr enwog T. H. Parry-Williams. Ydyn nhw’n cynnig arian? Nac ydyn. Felly, ni fydd hynny o ddiddordeb i Dewi Sant na Daf y gath. Ond mae’r enwog Waldo Williams yn gweld cyfle i ddifetha enw da ei hen…
1296: Pen-blwyddi
Mae’r Esgob Bryn Teribl wedi gwahodd rhieni Dewi Sant i oedfa arbennig i ddathlu eu pen-blwyddi yn wyth can mlwydd oed. Ond mae Santes Non, mam Dewi, yn gweithio yn ei gardd hi. Mae hi hefyd wrthi’n sefydlu enwad newydd yn erbyn eglwys Bryn Teribl, felly dyw hi ddim am fod yn rhagrithiol. Ydy Tad…
1295: Enwadau
Mae pawb wrthi’n sefydlu enwadau annibynnol oherwydd eu hanfodlonrwydd ynglŷn â gwaith Bryn Teribl fel Esgob. Mae Waldo Williams wedi ailenwi ei weithdy, sef Beics Waldo, i “Eglwys Annibynnol ein Harglwydd y Peiriannydd.” Mawredd. Hefyd, mae’r enwog Kate Roberts wedi sefydlu enwad newydd, sef “Eglwys Annibynnol ein Harglwydd y Nofelydd.” A oedd Iesu’n ysgrifennu nofelau?…
1294: Prif gantor
Mae’r Esgob newydd, sef Bryn Teribl, wedi cyflogi Jeff y gath fel prif gantor. Mawredd. Beth mae prif gantorion yn gwneud? Mae’n nhw’n codi canu yn ystod yr oedfa, ac arwain yr atebion. Ydy Jeff y gath yn deall trefn yr oedfa? Nac ydy. Ond dyw hynny yn broblem achos nad yw Bryn Teribl yn…
1293: Cyllideb
Mae’r Esgob newydd, sef Bryn Teribl, wedi bod yn gorwario. O diar. Faint o arian sydd ar ôl? Dim byd. Oes digon o arian i brynu Dreamies i Daf y gath? Nac oes. O diar. Oes gan Santes Dwynwen gyllideb? Oes! Mae ganddi hi ddigon o arian i adeiladu cromlech arall a phrynu Dreamies i…
