Mae bola tost gyda’r enwog Owain Glyndŵr.
O diar.
Ydy Owain wedi bod yn bwyta sigarennau Dewi Sant eto?
Nac ydy.
Ond yn anffodus mae e wedi bod yn bwyta bwyd Daf y gath. Nid yw Daf yn hapus o gwbl.
Nid yw stumog Owain yn hapus chwaith.
Mae Santes Dwynwen yn mynd i’r siopau i brynu cewynnau.

Saesneg / English
Salwch
The famous Owain Glyndŵr has stomach ache.
Oh dear.
Has Owain been eating Saint David’s cigarettes again?
No.
But unfortunately he has been eating Dave the cat’s food. Dave is not happy at all.
Owain’s stomach is not happy either.
Santes Dwynwen goes to the shops to buy some nappies.