Mae Owain Glyndŵr wedi cael ei daflu mas o eglwys yr Esgob Bryn Teribl.
Pam?
Roedd e’n dawnsio ar y seddi yn ei arfwisg.
O diar.
Ydy’r seddi’n dal i fod yn un darn?
Nac ydyn.
Oedd Daf y gath wedi bod yn canu cerddoriaeth Robat Arwyn ar yr organ eto?
Oedd.
O, Daf. Dyn ni gyd yn adnabod effaith cerddoriaeth Robat Arwyn ar yr enwog Owain Glyndŵr.

Saesneg / English
Pews
Owain Glyndŵr has been thrown out of Bishop Bryn Teribl’s church.
Why?
He was dancing on the pews in his armour.
Oh dear.
Are the pews still in one piece?
No they aren’t.
Had Dave the cat been playing Robat Arwyn’s music on the organ again?
Yes.
Oh, Dave. We all know the effect of Robat Arwyn’s music on the famous Owain Glyndŵr.