1302: Rap

Mae’r Esgob Bryn Teribl ar ei ben ei hun yn ei eglwys.

Ar ôl i Santes Dwynwen adael, dywedodd Dewi Sant y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn sant hefyd. Dywedodd yr enwog Waldo Williams y byddai’n mynd yn ôl i’w bentre enedigol. Ddywedodd yr enwog Kate Roberts ddim byd, achos roedd hi’n rhy brysur â’i llyfr newydd.

Dim ond Bryn Teribl a’r cathod sydd ar ôl.

Oes cynulleidfa?

Nac oes. Mae Bryn Teribl yn rhy analluog i redeg oedfa’n llwyddiannus.

O diar.

Ond mae gan Daf y gath syniad am fenter newydd.

— Beth am i ni ddechrau triawd rap? Allen ni ymgyrchu dros Grymych Rhydd, awgryma Daf.

— O da iawn, medd Jeff. Wes balaclafa ‘da ti?

— Wes wes. A gall y twpsyn yma fod yn DJ i ni.

Sorted. Bant â ni ar daith ‘te.

— O da iawn, medd Jeff. Wes balaclafa ‘da ti?

Saesneg / English

Rap

Bishop Bryn Teribl is alone in his church.

After Saint Dwynwen left, Saint David said he would give up being a saint too. The famous Waldo Williams said he would go back to the village of his birth. The famous Kate Roberts said nothing, because she was too busy with her new book.

Only Bryn Teribl and the cats are left.

Is there a congregation?

No there isn’t. Bryn Teribl is too incompetent to run a service successfully.

Oh dear.

But Dave the cat has an idea for a new venture.

— How about we start a rap trio? We could campaign for a free Crymych, suggests Dave.

— Oh very good, says Jeff. Have you got a balaclava?

— Yes. And this idiot can be our DJ.

— Sorted. Off on tour with us then.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.