Mae Owain Glyndŵr a’i fochyn cwta cefnogaeth emosiynol yn tynnu ymlaen yn dda iawn. Ond mae gwichian y mochyn cwta’n hala Daf y gath yn benwan. Mae hi eisiau bach o dawelwch. Does dim tawelwch i’w gael. Dim ond gwichian. Am rwystredig! Bydd angen anifail cefnogaeth emosiynol ar Daf hefyd. Ond beth fyddai’n addas? Mae…
Month: March 2024
882: Babi
Mae Santes Dwynwen newydd gael babi. Am annisgwyl. Am wyrth! Bydd hi’n rhy brysur i wneud mwy o’i chwstard ombeidus am sbel. Diolch byth. Mae’r babi’n swnllyd iawn. Arhoswch am funud. Nid dyna’r sŵn mae babanod yn ei wneud. Dyw babanod ddim yn gwichian felly. Mae gan y babi ffwr trwchus. Mochyn cwta yw e,…
881: Sul y mamau
Mae mam Owain Glyndŵr wedi dod i westy Dewi Sant. Dyw’r enwog Owain Glyndŵr byth yn mynd i’w gweld hi ar Sul y Mamau, felly mae hi’n mynnu dod i’w weld e. Pam nad yw’r enwog Owain Glyndŵr yn mynd i weld ei fam ar Sul y Mamau? Achos taw hen sguthan floeddiog yw hi….
880: Hysbyseb
Mae Daf y gath wedi ysgrifennu hysbyseb, a’i phinio i goeden y tu allan i westy Dewi Sant. “Ceisir gitarydd ar gyfer taith fyd-eang. Gwallt hir yn hanfodol. Does dim angen profiad blaenorol. Cysylltwch â’r enwog Bryn Teribl.” Cyn bo hir, mae’r astrolegydd anfad a ymosododd ar yr enwog Owain Glyndŵr yn ymddangos. Hen gitarydd…
879: Adferiad
Mae Santes Dwynwen yn gofalu am yr enwog Owain Glyndŵr, ar ôl iddo fe gael ei ymosod arno. Ymosodwyd arno gan yr astrolegydd, a oedd yn hen gitarydd i grŵp yr enwog Julian Cope. Mae Santes Dwynwen wedi gwneud ei chwstard adferol arbennig. Mae’n ffiaidd, wrth gwrs. Ac yntau’n adfer yn eithaf da, mae Dewi…
878: Diflaniad
Ble mae’r astrolegydd wedi mynd? Pam mae’r enwog Bryn Teribl yn chwibanu yn ddiniwed? Pam mae tomen o bridd wrth ochr cromlech yr enwog Julian Cope? Pam mae morthwyl ar y ddaear? O, Bryn! Beth wyt ti wedi gwneud? Arhoswch am eiliad. Dyna esgidiau’r enwog Owain Glyndŵr sy’n ymestyn o’r domen. Ydy e’n dal i…
877: Proffwydoliaeth
Mae astrolegydd yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Hen gitarydd band yr enwog Julian Cope yw e. Mae e wedi dod â’i siartiau a’i offerynnau i gyd. Nawr, mae e wedi meddiannu cromlech yr enwog Julian Cope. Nid yw’r enwog Julian Cope yn hapus o gwbl. Ond mae’r cathod yn hapus iawn. Mae’n hynod o…
876: Astrolegydd
Mae astrolegydd wedi cyrraedd gwesty Dewi Sant, neu beth sydd ar ôl o westy Dewi Sant ar ôl i’r dyn tân roi’r dderbynfa ar dân. Mae gyda’r cathod ddiddordeb mawr yn siartiau ac offerynnau’r astrolegydd. – Allwch chi ragweld pryd byddwn ni’n derbyn mwy o Dreamies? gofyn Daf y gath. Ond mae’r astrolegydd eisoes wedi…
875: Dyn tân
Mae dyn tân wedi dod i aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn ceisio ei gofrestru, ond mae e’n rhedeg o gwmpas y gwesty, yn gwirio bod digon o ddiangfeydd tân. Does ‘na ddim. Yna, heb rybudd, mae’r dyn tân yn rhoi’r dderbynfa ar dân. Mae Dewi Sant yn edrych arno fe’n synn….
874: Cadwyn
Mae Santes Dwynwen wedi rhoi’r gorau i’r Grawys yn gynnar a phrynu cadwyn aur newydd. Mae hi’n edrych mor bert, a theimlo’n wych. Nawr, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn genfigennus. Mae e am fod yn bert hefyd. Mae e’n prynu ffrog liwgar a sodlau uchel. ‘Dyn nhw ddim yn ei siwtio e. Blerwch yw e….
