Methiant yw’r enwog Owain Glyndŵr. Dyw Jeff y gath ddim yn gallu ei ddysgu i hela dim byd. All e hela caws? Na all. Pryfed? Dim gobaith caneri. Mae Jeff wedi rhoi’r ffidil yn y to. Mae’n ymddangos fel bod myfyrwyr arall Jeff, sef y llu o gathod bach, wedi aros yn y Crymych Arall…
