Mae rhywbeth yn symud. Nid yw’r enwog Owain Glyndŵr yn edrych mor welw ag o’r blaen. Ac mae e’n anadlu’n ddwfn. Dyna arwydd da. Mae effeithiau anesthetig yr anesthetydd wedi treulio. Mae e wedi atgyfodi! Haleliwia. Sombi yw Owain Glyndŵr nawr, felly? Efallai. Mae ei groen yn dal i fod tamaid bach yn llwyd, i…
Month: March 2024
902: Dydd Sadwrn y Pasg
Mae Dewi Sant wedi osgoi cael ei groeshoelio gan yr Esgob trwy ymguddio mewn bin. Mae’r Esgob wedi gadael mewn dicter. Mae e’n chwilio am ysglyfaeth arall. Ond beth am yr enwog Owain Glyndŵr? Mae e wedi oeri hyd yn oed yn fwy. Mae ei groen yn llwyd. Sombi yw Owain Glyndŵr? Dim eto. Ydy…
901: Dydd Gwener y Groglith
Mae pawb wedi bod yn ceisio deffro’r enwog Owain Glyndŵr o’i drwmgwsg. Ond fel tywysoges mewn chwedl, mae e’n parhau i fod yn ddiymateb. Mae’r anesthetig yn rhy gryf. Yn anffodus, gan mai Dydd Gwener y Groglith yw heddiw, mae’r Esgob wedi troi lan. Mae e’n mynnu sylw. Does dim ond croeso oeraidd i’r Esgob…
900: Anymwybodol
Mae anesthetydd yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae e wedi rhoi pawb i gysgu gyda’i gyffuriau cryf. Nawr, mae pawb yn dechrau deffro. Pawb, hynny yw, heblaw am yr enwog Owain Glyndŵr. Arhoswch am funud. Ydy’r enwog Owain Glyndŵr yn anadlu? Does neb yn sicr. Mae ei groen yn teimlo’n oer. O diar. Mae’n…
899: Y pedwaredd wal
Mae’r anesthetydd wedi anestheteiddio’r awdur. O diar. Sut wnaeth yr anesthetydd torri’r pedwaredd wal? Pwy a ŵyr. Ond mae’r awdur yn teimlo’n gysglyd iawn. Mae Daf y gath yn dihuno a chodi. Mae hi wedi cysgu am saith awr yn ddidor. Da iawn Daf. Ond mae’r awdur yn stryffaglu. Does dim geiriau gydag e. Dim…
898: Cysgu
Fe gysgodd pawb yn dda iawn neithiwr. Pam? Oherwydd cyffuriau cryf yr anesthetydd. Rhoes yr anesthetydd bawb i gysgu toc wedi swper. Pwy sy’n codi? Does neb yn codi. Mae pawb yn chwyrnu. Am stori ddiflas. Tybed oes gan yr anesthetydd fwy o gyffuriau. Saesneg / English Sleep Everyone slept very well last night. Why?…
897: Anesthetydd
Mae anesthetydd wedi dod i westy Dewi Sant. Beth mae anesthetyddion yn wneud? Mae anesthetyddion yn helpu llawfeddygon i baratoi ar gyfer llawdriniaethau. Maen nhw’n rhoi pobl i gysgu. Yn llythrennol, nid fel anifeiliaid sâl. Gobeithio. Weithiau, dim ond rhan o’r corff maen nhw’n ei roi i gysgu, fel na all y claf teimlo beth…
896: Chwaer
Mae chwaer annymunol Santes Dwynwen a’i phlant erchyll wedi dod i aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae chwaer Santes Dwynwen yn mynnu cael popeth yn rhad ac am ddim. Dyw Dewi Sant ddim yn hapus o gwbl, na Santes Dwynwen chwaith. Pam maen nhw wedi dod? Pwy a ŵyr. Ond maen nhw fel cymylau du,…
895: Budr
Mae Owain Glyndŵr yn fudr. O diar. Pam mae Owain Glyndŵr yn fudr? Mae e’n fudr oherwydd ei daith i’r safle tirlenwi mewn lori ysbwriel yng nghwmni ei efell. Ysbwriel yw Owain Glyndŵr, felly? Byddai Daf y gath yn dweud: ydy. Ond fyddai hynny ddim yn hollol deg. Arhoswch am funud. Pam mae’r pentwr o…
894: Biniau ag olwynion
Mae’r band un dyn wedi dychwelyd i westy Dewi Sant gydag amrywiaeth o finiau. Am anghyfleus. Mae biniau ym mhobman. Does neb yn hapus, heblaw am yr enwog Bryn Teribl a’i efell Owain Glyndŵr. Mae’r ddau’n dringo i finiau ag olwynion. Arhoswch am funud. Beth yw pwrpas y lori honno sy’ newydd droi lan? Mae’r…
