Mae’r band un dyn yn gadael gwesty Dewi Sant ac anelu at Loegr. Mae e angen ffeindio safle tirlenwi lle mae e’n gallu gwacáu’r bin mae e’n defnyddio fel drwm. Gwlad frawychus yw Lloegr. Dyw’r band un dyn ddim yn deall yr un gair mae’r Saeson yn dweud. Mae hynny oherwydd ei het od sy’n…
Month: March 2024
892: Safle tirlenwi
Mae band un dyn yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae e wedi bod yn achosi trafferth wrth berfformio deuawdau gyda’r enwog Bryn Teribl a chythruddo Daf y gath. Mae e’n drewi hefyd. Pam mae e’n drewi? Mae e’n drewi achos bod y bin ar ei gefn mae e’n defnyddio fel drwm yn llawn. Pryd…
891: Band un dyn
Mae band un dyn wedi dod i aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae e’n waeth nag unrhyw gerddor metel. Mae bin ar ei gefn yn lle drwm bas, yr hyn mae e’n chwarae wrth symud ei benelinoedd, ac mae symbalau ym mhobman. Mae harmonica ar ddarn o fetel o amgylch ei wddf, ac mae e’n…
890: Curo
Curodd Santes Dwynwen y bocsiwr sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant mewn ffeit. Mae hyn wedi gwneud argraff gref ar Dewi Sant ei hun. Sut mae’r bocsiwr? Chwilfriwiodd Santes Dwynwen y bocsiwr yn gyfan gwbl. Dim ond ar ffurf hylifol mae e’n bodoli bellach. Hylif ymdeimladol yw e. Mae Santes Dwynwen yn casglu’r hylif ymdeimladol…
889: Cleisiau
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi cael ffeit gyda’r bocsiwr sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant. Syniad ofnadwy oedd cael ffeit gyda’r bocsiwr. Mae Bryn Teribl yng nghleisiau i gyd. Ond nawr, mae’r bocsiwr am gael ffeit arall gyda rhywun arall. O diar. Pwy fydd ei wrthwynebydd nesaf? Arhoswch am funud. Mae Santes Dwynwen yn gwisgo…
888: Bocsiwr
Mae bocsiwr yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae e am gael ffeit. O diar. Nid yw Daf y gath am gael ffeit gyda’r bocsiwr. Mae bocswyr yn gryf iawn. Yn hytrach na chael ffeit, mae hi am gysgu o dan dractor. Nid yw’r enwog Julian Cope am gael ffeit gyda’r bocsiwr chwaith. Mae e…
887: Tristwch
Am eiliad, mae Owain Glyndŵr yn drist iawn bod ei fochyn cwta cefnogaeth emosiynol wedi hedfan i Awstralia. Mae e’n ystyried hedfan yno ei hun, ond does dim arian gyda fe. Does dim posib adeiladu awyren gan fod Dewi Sant wedi cuddio’r offerynnau i gyd. Dyw’r enwog Owain Glyndŵr ddim yn saff gydag offerynnau. Ond…
886: Aneffeithiol
Mae mochyn cwta cefnogaeth emosiynol yr enwog Owain Glyndŵr yn aneffeithiol iawn. Pam? Dyw e ddim yn cynnig unrhyw gefnogaeth i Owain Glyndŵr o gwbl. Mae’r mochyn cwta wedi cael llond bol o gael ei hela gan Jeff y gath, ac mae e nawr yn hedfan i Awstralia. Am annisgwyl! Beth fydd y mochyn cwta…
885: Troi mewn cylchoedd
Mae mochyn cwta cefnogaeth emosiynol yr enwog Owain Glyndŵr yn troi mewn cylchoedd. Does neb yn gwybod pam. Mae e’n troi mewn cylchoedd o gwmpas cromlech yr enwog Julian Cope. Mae gwesteion y gwesty i gyd yn gwylio. Mae’n fel gwylio gemau Olympaidd siomedig iawn. Arhoswch am funud. Beth sy’n digwydd? Mae Jeff y gath…
884: Yr Offeren
Mae Dewi Sant yn canu Offeren yn y gegin. Does neb yn mynychu, heblaw am Daf y gath, sy’n cysgu o dan y bwrdd. Pam nad yw Dewi Sant yn canu Offeren mewn eglwys? Achos bod yr Esgob wedi ei wahardd i wneud e. Pam? Wel. Fe aeth Dewi Sant â mochyn cwta cefnogaeth emosiynol…
