1388: Ymgeiswyr

Mae ymgyrch Daf y gath yn mynd o nerth i nerth.

Bydd tri deg pedwar o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad. Oherwydd anghysondebau gweinyddol, Baijel Garej yw 33 ohonynt.

Mae ymgyrch Daf y gath yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi bod yn dosbarthu Dreamies seicedelig i bawb, felly maen nhw off eu pennau ar deithiau lliwgar.

Pwy fyddai’n pleidleisio dros Baijel Garej tra bydden nhw ar drip llawn caredigrwydd ac ysbrydoliaeth?

Neb, dyna pwy.

Neb, hynny yw, ond yr enwog Owain Glyndŵr.

Siŵr o fod bydd e’n pleidleisio dros Baijel Garej ar ddamwain. Yr ynfytyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.