Mae Baijel Garej wedi ymddiswyddo mewn pwll o dymer. Hwrê! Bydd isetholiad. Hwrê! Yn anffodus, bydd Baijel Garej yn sefyll fel ymgeisydd. Am ddryswch! Bydd Daf y gath yn sefyll yn erbyn Baijel Garej, oherwydd nad yw Bryn Teribl na’r enwog Owain Glyndŵr yn ddigon call. Beth fydd prif bolisi Daf? Dreamies seicedelig i bawb!…
Month: July 2026
1382: Plaid
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn gwylio castiau’r contllyd Baijel Garej ar y teledu. Mae e eisiau derbyn anrhegion ariannol hefyd, felly mae e wedi penderfynu creu plaid wleidyddol newydd. Dros ba fath o safbwynt gwleidyddol neu bolisïau fydd e’n sefyll? Gitarau bâs i bawb. Dyna fydd ei unig bolisi. O diar. Beth am…
1381: Ymddeoliad
Mae’r Esgob wedi ymddeol. Diolch byth. Mae e’n disgwyl i bawb bobi teisennau a bisgedi, a chynnal parti er mwyn ei anrhydeddu. Ond mewn gwirionedd mae pawb yn casáu’r Esgob, a’i galw “yr Esgont” y tu ôl i’w gefn. Felly does dim teisennau, na bisgedi, na pharti. — Hei Jeff, medd Daf y gath i’w…
1380: Limrig Daf — Jiráff
Hales funud wrth edrych yn graff ar y peth yn yr ardd ar ben rhaff — wedd e’n dal ac yn drwm, ei lais braidd yn rwm — mae Jeff wedi dala jiráff.
1379: Deallusrwydd artiffisial
Mae Santes Dwynwen wedi bod yn cael sgwrs ar-lein â fersiwn artiffisial o Dewi Sant. Ble mae’r Dewi Sant go iawn? Pwy a ŵyr. Pam mae rhywun wedi creu fersiwn artiffisial ohono fe? Oherwydd mai ynfydion yw’r bobl sy’n datblygu deallusrwydd artiffisial. Ydy’r Dewi Sant artiffisial yn realistig? Nac ydy. Mae’n sobr, am un peth….
