
Mae’r Archesgob newydd wedi bod yn gwneud llawer o addewidion.
Mae e wedi addo i Santes Dwynwen bydd ei chwstard hi’n cael ei defnyddio yn ystod y cymundeb. Mae e wedi addo i Dewi Sant bydd caniatád iddo yfed y gwin cymun sydd ar ôl. Ac yn well fyth, bydd corff Crist yn cael ei disodli gan baced o Dreamies rhithbair.
Mae Daf y gath wrth ei bodd. Does neb erioed wedi cwrdd ag Archesgob o’r fath o’r blaen.
Ond dyw pawb yn hapus, yn enwedig y rhai sydd ddim o blaid moderneiddio.
O diar.
Beth a wnânt hwy?
Mae’n nhw’n mynd i sefydlu eglwys hollt. Bydd yr hen Esgob yn ei rhedeg. Bydd rhyfel crefyddol.
Mawredd yr adar.