Mae Santes Dwynwen yn dwli’n llwyr ar Robat Smith. Mae ei chariad hi‘n ddiderfyn. O diar. Bydd rhaid i Robat Smith adael Y Pandas Pinc cyn hir, a chanolbwyntio ar The Cure. Ond mae Santes Dwynwen yn benderfynol o ennill ei gariad cyn iddo fe fynd. Mae hi’n prynu tusw o rosod a’u trochi nhw…
Month: October 2024
1083: Amrywiadau hwyl gwyllt
Pam mae Daf y gath yn dioddef o amrywiadau hwyl gwyllt? Achos bod Santes Dwynwen wedi rhoi tabledi dirgel iddi. O diar. Beth sy’n digwydd? Mae Santes Dwynwen yn llawn cenfigen oherwydd hoffter Robat Smith tuag at Daf y gath. Felly mae hi am wneud i Daf y gath fihafio’n od. Ond mae Daf y…
1082: Dymuniad
Dydd Gwener yw e heddiw, felly mae Robat Smith mewn cariad. Ond gŵr priod hapus yw Robat Smith, on’d yw e? Ydy. Ond mae e hefyd wedi cwympo mewn cariad â’i hoff anifail, sef Daf y gath. Wel, mae hynny’n iawn, ‘te. Ond mae Daf y gath yn gweld cyfle i gymryd mantais ar deimladau…
1081: Ymddatodiad
Pam mae Barbra Streisand ar y llwyfan? Achos ei bod hi eisiau cwffio gyda Robat Smith. O diar. Mae risg mawr fydd ‘na ddim cyngerdd heno. Ond mae gan Daf y gath gynllun. Mae hi’n chwarae plaengan dros system PA y clwb. Fel sugnwr gwaed yn yr heulwen, mae Barbra Streisand yn ymddatod yn y…
1080: Cusana fi
Am annisgwyl. Er nad yw hi’n aelod o’r grŵp Y Pandas Pinc bellach, mae Santes Dwynwen wedi cwympo mewn cariad â Robat Smith. Mae hi’n dilyn y bws teithio ar gefn hen dractor Waldo Williams. — Cusana fi, cusana fi, cusana fi! medd Santes Dwynwen. Wel. Dyw Robat Smith ddim yn dweud dim byd. Ydy…
1079: Y pen ar y drws
Mae’n ymddangos fel bod gan Y Pandas Pinc stelciwr. Menyw fechan yw hi. Ond mae ganddi hi gyllell enfawr. Ac mae hi’n dwli’n lân ar Robat Smith. O diar. Ar ôl y cyngherdd heno, mae Daf y gath yn gwneud yn siŵr ei bod hi wedi cloi drws y bws teithio fel y bydd pawb…
1078: Y top
Ar fws teithio Y Pandas Pinc, mae Daf y gath wedi rhoi anrheg i bob un aelod o’r grŵp, yn gynnwys Robat Smith. Beth yw’r anrhegion? Topiau ydyn nhw. Pam mae Daf y gath wedi rhoi topiau i bawb? Er mwyn tynnu eu sylw oddi ar gymryd gormod o gyffuriau. Wel, da iawn Daf. Maen…
