Mae Bryn Teribl yn mynd trwy’r gofod yn ei flwch cardbord fel cath i gythraul. Mae e’n cyrraedd y blaned Neifion. Annwyl Dduw, mae’n oer. Mae’r oerfel yn gwneud i fysedd Bryn Teribl droi’n las, fel y blaned. Does dim gwres canolog ar y blaned Neifion. Does dim Shêc ‘n’ Fac chwaith. Saesneg / English…
Month: October 2024
1113: Labordy
Erbyn hyn, mae’r Mawrthiaid yn anwybyddu Dewi Sant a’i Feibl. Dyw’r Datguddiad ddim o ddiddordeb iddyn nhw o gwbl. Beth sydd o ddiddordeb iddyn nhw, te? Y powdr gwyn ar wefusau un ohonyn nhw! Beth yw e? Olion Shêc ‘n’ Fac yw e! Hwrê! Maen nhw’n arwain y Mawrthiad lwcus i’w labordy tanddaearol. Maen nhw…
1112: Disgyblion cythryblus
Yn ôl ar y blaned Mawrth, mae Dewi Sant yn dysgu popeth mae e’n gwybod am y beibl i’r Mawrthiaid. Ddylai hynny ddim yn cymryd yn hir. Mae e’n canolbwyntio ar yr adran fwyaf difyr, sef y Datguddiad. Mae e’n licio’r rhannau lle mae pethau’n mynd ar dân. Ond mae’r Mawrthiaid wedi dechrau codi stŵr….
1111: Iau
Mae Bryn Teribl yn teithio drwy’r gofod mewn blwch cardbord ar drywydd cyflenwad newydd o Shêc ‘n’ Fac. Oes Shêc ‘n’ Fac ar y blaned Iau? Nac oes. Dyw’r blaned Iau ddim yn soled. Pelen o nwy yw hi. O diar. Oes Shêc ‘n’ Fac ar leuadau’r blaned Iau? Nac oes. Ond mae llawer o…
1110: Cymundeb
Mae Dewi Sant wedi troi lan ar wyneb y blaned Mawrth. Mae e wedi bod yn trio perswadio’r Mawrthiaid i fynychu oedfa cymundeb. Pam hynny? Achos bod yr Esgob wedi gorchymyn iddo fe ei wneud. Pam? Achos bod yr Esgob yn poeni am effaith Shêc ‘n’ Fac ar ysbrydolrwydd y Mawrthiaid. Ond does dim Shêc…
1109: Crynu
Mae Bryn Teribl yn poeni a chrynu. Pam? Achos nad oes llawer o Shêc ‘n’ Fac ar ôl iddo fe ar y blaned Mawrth, ac mae ei gaethineb yn ddifrifol iawn. Tra bod Bryn Teribl yn parhau i wneud y Shêc ‘n’ Fac a rhoi’r ffresni’n ôl, mae ei efell, yr enwog Owain Glyndŵr, yn…
1108: Lyfli
Ar y blaned Mawrth, mae Daf a Jeff yn cludo’r enwog Bryn Teribl, ei hwfer a’i Shêc ‘n’ Fac yn ôl i ogof Menter Iaith Mawrth, lle mae Mrs. Trefnus yn aros amdanyn nhw. Mae Bryn Teribl yn dal i fwmian cân yr hysbysebion Shêc ‘n’ Fac a ffroeni’r powdr persawrus. Dyw e ddim yn…
1107: Shêc ‘n’ Fac
Ar y blaned Mawrth, mae Jeff y gath wedi lleoli ei tharged. Yn y pellter, mae hi’n clywed canu llais digamsyniol yr enwog Bryn Teribl. Beth mae e’n canu? — WNEWCH Y SHÊC ‘N’ FAC, A RHOID Y FFRESNI NÔL, WNEWCH Y SHÊC ‘N’ FAC, A RHOID Y FFRESNI NÔL… Dyma fe, yn noethlymun heblaw…
1106: Crys a throwsus
Pam mae crys yn y tywod? Crys ffurfiol yw e, fel rhywbeth byddai canwr opera yn ei wisgo, o bosib, ac mae e wedi ei blygu’n daclus. Mae Jeff y gath wedi ei drysu. Mae hi ar drywydd yr enwog Bryn Teribl ar y blaned Mawrth, ac mae’n amlwg bod y canwr enwog wedi bod…
1105: Sanau
Ar y blaned Mawrth, mae Jeff y gath ar drywydd yr enwog Bryn Teribl. Hyd yn hyn, mae hi wedi gweld ei flwch cardbord a’i esgidiau wedi eu gadael yn nhywod wyneb y blaned. Ond beth yw’r rheina? Sanau ydyn nhw. Sanau Mr. Blobby. Felly mae rhaid taw sanau Bryn Teribl ydyn nhw, on’d oes?…
