Ar y blaned Mawrth, mae Daf y gath wedi bod yn cael lot o hwyl yn gyrru blwch cardbord o gwmpas. Yn y cyfamser mae Jeff y gath wedi dod o hyd i bâr o esgidiau. Esgidiau pwy ydyn nhw? Mae’r geiriau “CHWITH” a “DE” wedi eu hysgrifennu arnyn nhw mewn priflythrennau â Tipp-Ex. O…
Month: October 2024
1103: Blwch
Mae Mrs. Trefnus wedi dod o hyd i flwch ar wyneb y blaned Mawrth. Mae’n edrych fel blwch cardbord. Pwy allai fod wedi gadael blwch cardbord ar y blaned Mawrth? Does dim ots gyda Daf y gath pam mae’r blwch yno. Mae hi’n dringo i mewn a’i yrru i ffwrdd. Arhoswch am eiliad. Mae gitâr…
1102: Sioc
Ar y blaned Mawrth, mae Natalie Darllen wedi cael ei bwyta. O diar. Beth ddigwyddodd? Daeth hi o hyd i fwystfil enfawr mewn ogof, a’i wahodd i’w chlwb darllen. Ond doedd y bwystfil enfawr ddim am ddarllen am Dyfrig y gath. Dim o gwbl. Felly bwytaodd y bwystfil Natalie Darllen er mwyn ei thewi. Yn…
1101: Cydweithio
Ar y blaned Mawrth, mae sawl Mawthiad wedi dod i swyddfa Mrs Trefnus, sef ogof danddaearol Menter Iaith Mawrth. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi cael llond bola o Natalie Darllen a’i lyfrau diflas am Dyfrig y gath. Maen nhw am gydweithio â Menter Iaith Mawrth i roi diwedd ar holl nonsens Natalie Darllen. Ond…
1100: Diwrnod Shwmae Sumae
Mae Diwrnod Shwmae Sumae wedi bod yn fethiant llwyr ar y blaned Mawrth. Mae Jeff y gath yn gwrthod cyfarch ei chwaer Daf. Mae Daf y gath yn gwrthod cyfarch ei chwaer Jeff. Mae Mrs. Trefnus yn gwrthod cyfarch Natalie Darllen rhag ofn iddi ei gorfodi i ymuno â sesiwn clwb darllen. Dim ond cynnig…
1099: Seryddwr
Yn ôl ar y Ddaear, mae seryddwr wedi sylwi ar rywbeth bach yn symud yn araf dros wyneb y blaned Mawrth. Smotyn bychan yw e. Mae e’n gwylio’r smotyn bychan drwy ei delesgop. Dyw e ddim yn sicr beth yw e. Ydy e wedi darganfod lleuad newydd i’r blaned Mawrth? Nac ydy, mae’n rhy fach…
1098: Sgyrsiau
Ar y blaned Mawrth, mae Natalie Darllen a’r Mawrthiaid yn cael egwyl fach o’r clwb darllen a’i llyfrau diflas am Dyfrig y gath. Yn anffodus, yn ystod yr egwyl, mae hi’n gwylltio’r Mawrthiaid drwy eu gorfodi nhw i gael sgyrsiau diflas yn y Gymraeg hefyd. Mae’r sgyrsiau’n ddwfn iawn. — Shwmae. Mawrthiad dw i. —…
1097: Cylchdro gorchest
Ar y blaned Mawrth, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn gwneud cylchdro gorchest. Pa mor bell ydy e’n mynd i redeg? Wel, gawn ni weld. Does dim rhwystrau i’w stopio, felly cylchedd cyfan Mawrth fydd ei daith. Bydd y cylchdro gorchest hwn yn cymryd blynyddoedd. O diar. Wneith e stopio ar ôl iddo fe wneud ei…
1096: Swyddfa
Ar y blaned Mawrth, mae Mrs. Trefnus wedi bod yn brysur. Mae hi wedi bod yn trefnu swyddfa ar gyfer Menter Iaith Mawrth. Am gyflawniad! Arhoswch am eiliad. Oes trydan yn y swyddfa? Nac oes. Oes desg yn y swyddfa? Nac oes. Oes cadair yn y swyddfa? Nac oes. Does dim byd yn y swyddfa…
1095: Gwaith cartref
Ar y blaned Mawrth, mae Natalie Darllen yn gorfodi’r Mawrthiaid i ddarllen llyfrau Cymraeg un ar ôl y llall. Erbyn hyn, maen nhw wedi darllen sawl llyfr am Dyfrig y gath a’i anturiaethau. Does dim byd yn digwydd ynddyn nhw. Mae’r Mawrthiaid yn dechrau aflonyddu. Ond yn anffodus, mae gan Natalie Darllen rhywbeth hyd yn…
