Mae Mrs. Trefnus wedi cael syniad. Mae hi’n mynd i rwystro’r uffernol Natalie Darllen rhag diflasu’r Mawrthiaid â’i llyfrau ofnadwy drwy sefydlu Menter Iaith Mawrth. Bydd canllawiau. Bydd deddfau hyd yn oed. Pwy fydd yn mynnu ufudd-dod? Nid Daf y gath. Mae Daf y gath wedi bod yn arbrofi â chyffuriau Mawrthaidd, ac mae hi…
Month: October 2024
1093: Dyfrig
Ble mae Natalie Darllen? Mae Natalie Darllen mewn ogof danddaearol ar y blaned Mawrth. Ydy hi’n arwain clwb darllen? Wrth gwrs. Ydy hi wedi dewis llyfr ofnadwy ar gyfer y Mawrthiaid? Wrth gwrs. Mae hi wedi dewis llyfr am “Dyfrig y gath” sydd yn gall iawn a gwneud pethau normal fel bwyta bwyd cathod ac…
1092: Olion traed
Ar y blaned Mawrth, mae Daf y gath wedi dod o hyd i olion traed yn y tywod coch. Maen nhw’n edrych fel ei bod nhw wedi cael eu gwneud gan rywun oedd yn rhedeg. Bob hyn a hyn, maen nhw’n troi mewn cylch. Pwy allai fod wedi eu gwneud? Yn bwysicach fyth, pam mae…
1091: Glaniad
Mae Mrs. Trefnus wedi glanio ei llong ofod ar wyneb y blaned Mawrth. Hwrê. Ble mae’r Mawrthiaid? O, dyma nhw. Mae cannoedd ohonyn nhw. Maen nhw’n wyrdd, ac maen nhw’n edrych yn grac iawn. Hyd yn oed yn waeth na hynny, maen nhw’n siarad Saesneg. O diar. Beth yw’r sŵn ‘na? Dyna long ofod Natalie…
1090: Llong ofod
Mae Mrs, Trefnus yn gallu rheoli ei llong ofod yn syfrdanol o dda. Dyma hi a’r cathod ar eu ffordd i’r blaned Mawrth er mwyn osgoi Natalie Darllen a’i chlwb darllen uffernol. Arhoswch am eiliad. Beth yw honna? Llong ofod arall yw honna. Pwy sydd wrth y llyw? Natalie Darllen, dyna pwy! Mae hi’n dilyn…
1089: Clwb Darllen
Mae Natalie Darllen eisiau trefnu clwb darllen ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn y ganolfan grefft. Yn anffodus mae Natalie Darllen yn rhy anhrefnus i drefnu dim byd. Nid yw Mrs. Trefnus yn fodlon ei wneud, achos bod Natalie Darllen mor annifyr. Arhoswch am eiliad. Beth yw honna? Llong ofod yw honna. Am syndod. Mae Mrs….
1088: Natalie Darllen
Pwy yw hon? Mae menyw arall wedi dod i’r ganolfan grefft. Mae ganddi fag o lyfrau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Natalie Darllen yw hi. Mae hi eisiau i bawb ddarllen yn y Gymraeg. Mae hi’n annifyr dros ben. Oes ganddi lyfr am fynd i’r gofod? Nac oes. Oes ganddi lyfrau am gathod sy’n cael anturiaethau…
1087: Mrs. Trefnus
Mae rhywun wedi bod yn tacluso’r ganolfan grefft. Mae gweithdy weldio Bryn Teribl yn drefnus. All e ddim ffeindio Owain Glyndŵr. Mae siop sigarau Dewi Sant yn drefnus. All e ddim ffeindio dim byd. Mae caffi Santes Dwynwen yn drefnus. Mae rhywun wedi cael gwared â’i holl gwstard erchyll. Mae menyw ganol oed yn sefyll…
1086: Breuddwyd 4:13
Mae hi’n gynnar iawn, ac mae Daf y gath newydd ddihuno o freuddwyd. Ble mae’r Pandas Pinc? Mae’r Pandas Pinc wedi diflannu. Beth sydd? Roedd Daf ar daith seicedelig ar ôl iddi gymryd gormod o Dreamies. Doedd hi ddim ar daith go iawn, felly? Nac oedd. Phiw. Ble mae Robat Smith? Mae Robat Smith gartref,…
1085: Yr iachâd
Mae Jeff y gath wedi ymuno â thaith Y Pandas Pinc. Mae hi wedi gyrru hen fan ei chwaer ac ymuno â’r holl griw mewn gwasanaethau tu allan i Basingstoke. Erbyn hyn, mae Santes Dwynwen yn gwneud ei hun yn sâl drwy boeni ydy Robat Smith yn ei charu hi neu beidio. Yr ateb yw:…
