Mae Daf y gath wedi bod yn cael trafodaethau â’r gwrthbleidiau, yn gynnwys y ffasgwyr, gan na fydd croeso iddi ddod adre tra bydd Mrs. Llinos Trowsus yn aelod o gabinet ei chwaer. O diar. Daf, pam fyddet ti’n gwneud hynny? Achos bod eisiau dial arni hi. Nid yw’r enwog Owain Glyndŵr yn ddigon call…
Month: July 2024
1000: Dŵr
Mae Jeff y gath, y Prif Weinidog newydd, yn ystyried beth ddylai hi wneud ynglyn â dŵr a llygredd. Mae ateb amlwg, ond does neb eisiau ei glywed. Bydd angen cronfa ddŵr newydd. Cronfa ddŵr enfawr. Felly bydd angen wal. Wal enfawr. Bydd angen wal enfawr o gwmpas un o brif ffyrdd prysurach Lloegr. Dyw…
999: Adeiladu
Mae Jeff y gath wedi cyhoeddi bydd ei llywodraeth hi’n adeiladu miliynau o dai. Dyna lawer o dai haf. Siŵr o fod bydd y Saeson yn prynu‘r rheiny i gyd. Ond pwy sy’n mynd i wneud y gwaith adeiladu? Yr enwog Bryn Teribl, dyna pwy! O diar. Mae e’n eistedd ar y llawr yng nghanol…
998: Dirprwy
Mae angen dirprwy Brif Weinidog ar Jeff y gath. Pwy fyddai’n addas? Mrs. Llinos Trowsus, dyna pwy! Mae ganddi hi egwyddorion, mae hi’n gallach na neb arall, ac mae hi’n gwisgo siwtiau smart. Felly bydd hi’n gwneud argraff dda ar bawb a chythruddo gwasg yr adain dde. Dyna ddelfrydol. Tasg gyntaf y dirprwy Brif Weinidog…
997: Cabinet
Mae Jeff y gath yn cwrdd â’i chabinet am y tro cyntaf. Pwy sydd yn y cabinet? Cabinet o’r holl dalentau yw cabinet Jeff y gath. Yn anffodus, does dim llawer o dalent ar gael. Beth sy wedi bod yn digwydd yn swyddfa’r cabinet? Mae Owain Glyndŵr, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Redeg yn Gyflym, wedi…
996: Symud mas
Mae Daf y gath wedi symud mas. Hwyl fawr, Daf. Does dim caniatâd iddi hi aros dim mwy. Methiant llwyr yw Daf y gath. Bydd rhaid iddi fyw ar y strydoedd a datblygu ei harferiad catnip. Mae Jeff y gath i fod i ddechrau llywodraethu, ond does dim ots gyda hi mewn gwirionedd. Mae hi’n…
995: Prif Weinidog Newydd
Mae hi wedi bod yn noson hir. Dderbyniodd Daf y gath ddim cefnogaeth o gwbl. Mae’r esgob wedi colli ei sedd a chael ei daflu mas i’r strydoedd. Hwrê! Mae hen letysen hefyd wedi cael ei thaflu mas. Hwrê! Ac mae Jeff y gath wedi ennill yr etholiad cyffredinol. Hwrê! Hi yw’r Prif Weinidog newydd!…
994: Pleidleisio
Heddiw, mae pawb yn pleidleisio. Mae Daf y gath yn pleidleisio drosti hi ei hun. Mae Jeff y gath yn dweud ei bod hi’n pleidleisio drosti hi ei hun hefyd, ond mewn gwirionedd mae hi’n pleidleisio dros Daf. Fyddai neb arall yn gwneud hynny. Mae Jeff mor garedig. Mae pawb arall yn bwriadu pleidleisio dros…
993: Rhan-amser
Diwrnod olaf yr ymgyrchoedd etholiadol yw heddiw. Diolch byth. Mae Daf y gath wedi cyhuddo ei chwaer Jeff o fod eisiau gweithio’n rhan-amser. Pam hynny? Achos bod Jeff y gath yn hoff iawn o gael cyntun bach ar nos Wener. Beth yw’r broblem? Does dim problem. Mae angen cyntun bach ar bawb o bryd i’w…
992: Wal
Mae Daf y gath yn mynd i fentro hi’n arw. Does ganddi ddim byd i’w golli. O diar. Mae hi’n dechrau adeiladu wal. Wal gwleidyddol. Ond does neb yn gwylio. Does dim ots gyda neb. Mae pawb yn mynd i bleidleisio dros Jeff y gath. Hwrê. Erbyn diwedd y prynhawn, mae wal Daf yn edrych…
