Erbyn hyn, mae Lloegr o dan reolaeth Bae Caerdydd. Mae Jeff y gath yn llywodraethu’r wlad o bell. Mae dyfodol ieithyddol y wlad yn y fantol. Pam hynny? Mae Jeff y gath wedi pasio deddfwriaeth newydd fydd yn golygu bod rhaid i’r Saeson i gyd dysgu Cymraeg. Cymraeg fydd iaith swyddogol Lloegr yn lle Saesneg!…
Month: July 2024
1020: Ymddiswyddo
Mae aelodau seneddol San Steffan wedi bod yn cael gwersi Cymraeg cyn iddyn nhw symud i Fae Caerdydd. Mae llawer o gwyno wedi bod, ynghyd â llawer o jôcs bod “gormod o gytseiniaid” yn yr iaith. Does dim dewis gan Jeff y gath. Mae hi’n eu gorfodi ei thiwtoriaid, yn gynnwys Daf y gath a’r…
1019: Trethi
Nawr bod Jeff y gath wedi dymchwel Tŷ’r Cyffredin, bydd rhaid i Mrs Llinos Trowsus godi trethi. Mae angen talu am yr holl wersi Cymraeg i’r aelodau seneddol cyn iddyn nhw symud i Fae Caerdydd. Ac mae’r gwersi’n ddwys iawn iawn. O diar. Mae tiwtoriaid Cymraeg yn haeddu cyflog teg, wedi’r cwbl. Mae Daf y…
1018: Gwersi Cymraeg
Mae Jeff y gath a’i chwaer Daf wedi gorffen dymchwel Tý’r Cyffredin. Hwrê! Bydd rhaid i’r aelodau seneddol i gyd symud i Gymru a gweithio yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Arhoswch am funud. On’d yw hynny’n meddwl bydd llwyth o bobl ddi-gymraeg ychwanegol yn symud i Gymru? Nac ydy. Mae Jeff eisoes wedi rhagbaratoi…
1017: Bwced
Mae bwced gan yr enwog Owain Glyndŵr. Ble daeth e o hyd i’r bwced? Pwy a ŵyr. Beth mae e’n gwneud? Mae e’n gwisgo’r bwced fel het. All e ddim gweld dim byd. O diar. Tra bod Jeff y gath a’r lleill wrthi’n dymchwel Tŷ’r Cyffredin, mae Owain Glyndŵr yn rhedeg o gwmpas â’i fwced…
1016: Symud
Mae Daf y gath wedi creu adroddiad. Oho, mae hynny’n swnio’n swyddogol iawn. Beth mae’r adroddiad yn ddweud? Mae’r adroddiad yn dweud nad oes gobaith caneri o ddatrys y broblem asbestos yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae asbestos ym mhobman. O diar. Felly mae rhaid i Jeff y gath, Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, wneud penderfyniad….
1015: Sioe
Gweithred gyntaf Owain Glyndŵr fel nawddsant newydd Cymru yw trefnu sioe amaethyddol yn Nhŷ’r Cyffredin. O diar. Dyma’r enwog Bryn Teribl ar ei dractor. Ni fydd y tractor yn ffitio trwy ddrws y siambr. Mae geifr ym mhobman, yn rhedeg o gwmpas Tŷ’r Cyffredin braidd fel yr enwog Owain Glyndŵr ei hun. Mae larwm yn…
1014: Olynydd
Ac yntau wedi mynd i helpu Daf y gath i gael gwared â’r holl asbestos yn Nhŷ’r Cyffredin, mae angen ar Jeff y gath ddod o hyd i olynydd i Dewi Sant. Ond pwy allai lenwi esgidiau nawddsant Cymru? Mae Mrs. Llinos Trowsus yn llawer rhy brysur. Nid yw Santes Dwynwen am adael ei chwstard….
1013: Ymddeoliad
Mae Dewi Sant wedi synnu pawb. Mae e’n dweud ei fod e’n mynd i ymddeol fel aelod seneddol, gan ei fod e’n rhy hen i ddeall popeth y dyddiau hyn. Mewn gwirionedd, mae e eisiau treulio mwy o amser yn yfed ac ysmygu. Ond mae Jeff y gath yn pasio deddfwriaeth frys ar ei gyfer…
1012: Ffreutur
Mae Jeff y gath am ddiwygio trefniadau ynglŷn â ffreutur Tŷ’r Cyffredin. Mae’r ffreutur wedi bod yn cael cymhorthdal gan drethdalwyr fe bod hi’n bosib cael gwledd gyfan am hanner can ceiniog. Dim bellach. Yn y dyfodol, bydd Dreamies ar gael yn rhad ac am ddim. Bydd popeth arall ar gael am bris safonol. O…
