Ddoe, triodd Dewi Sant gynnau sigarét yn Nhŷ’r Cyffredin. Does dim caniatâd i neb ysmygu yn Nhŷ’r Cyffredin. Hen adeilad peryglus yw Tŷ’r Cyffredin. Heddiw mae e’n feipio. Arhoswch am funud. Oes asbestos yn Nhŷ’r Cyffredin? O, oes. Mae Tŷ’r Cyffredin yn llawn o asbestos. Gyda beth mae Bryn Teribl yn chwarae ynghanol y llawr?…
Month: July 2024
1010: Haf
Mae’r haf wedi cyrraedd. Mae hi’n boeth iawn. Does neb yn hapus. Mae Jeff y gath yn pasio deddfwriaeth yn Nhŷ’r Cyffredin bydd yn gorfodi i’r enwog Bryn Teribl dyfrio planhigion pawb yn y gwres. Bydd e’n brysur iawn. Ond paid â phoeni, Bryn! Fe ddaw’r glaw cyn bo hir. Saesneg / English Summer Summer…
1009: Cenedlaetholi
Mae Jeff y gath wedi cyhoeddi bydd rhaglen fawr o genedlaetholi. Am ryfeddod! Bydd hi’n ail-genedlaetholi’r rheilffyrdd ac ynni, a chenedlaetholi sanau a chaws am y tro cyntaf. Ond pam mae golwg mor drist ar yr enwog Bryn Teribl? Achos ei fod e’n mynd i gael ei genedlaetholi hefyd. Fydd e ddim yn perfformio ar…
1008: Ymddiheuro
Mae Jeff y gath wedi anfon yr enwog Owain Glyndŵr i Ffrainc. Mae hi’n mynnu dylai’r Ffrancod ymddiheuro am fod wedi ymosod ar Abergwaun ar ddiwedd y deunawfed ganrif. Ydy’r enwog Owain Glyndŵr yn ddigon galluog ar gyfer y perwyl hwn? Nac ydy. Ond mae e’n mynd i gael lot o hwyl wrth drio bwyta…
1007: Dieflig
Mae Daf y gath yn dal i gynnal trafodaethau â’r gwrthbleidiau. Mae hi am danseilio llywodraeth Jeff y gath. Felly mae hi’n fodlon siarad â phob math o bobl ddieflig. Mae hi’n cael sgwrs gyda llyfant erchyll. – Helo Mistar Llyffant. Ble mae eich llyffantod eraill? – Mae popeth mor annheg! Dylwn ni fod wedi…
1006: Ysgolion Cymraeg
Mae Jeff y gath wedi gwneud penderfyniad. Mae hi’n mynd i greu mwy o ysgolion Cymraeg. Bydd mwy o ysgolion Cymraeg ledled Cymru. Bydd cathod a chŵn yn dysgu Cymraeg mewn milfeddygfeydd hefyd. Ond mae gan Mrs. Llinos Trowsus syniad gwell. Erbyn 2026 bydd pob un ysgol yn y Deyrnas Unedig yn dysgu trwy gyfrwng…
1005: Diwylliant
Pwy yw’r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Ddiwylliant? Yr enwog Bryn Teribl, dyna pwy! O diar. Dyma fe, yn trefnu cyngerdd yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae e eisiau chwarae unawd ar ei gitâr fas. Does neb arall am berfformio. – Bryn! Beth am geisio gwella’r sefyllfa ddiwylliannol ledled y wlad? Dyna dy swydd, wedi’r cyfan, meddai Jeff…
1004: Bywiog
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi cael ei anfon yn ôl o’r Unol Daleithiau gan ei fod yn rhy fywiog i’r arlywydd. Mae gan Jeff y gath broblem, felly. Sut mae cael gwared â’r enwog Owain Glyndŵr? Dyw hi ddim yn gallu ei anfon i’r carchar, achos bod y carcharau’n llawn dop. Does dim ond un…
1003: Yr Unol Daleithiau
Mae Jeff y gath wedi anfon yr enwog Owain Glyndŵr i’r Unol Daleithiau. Ydy hi’n disgwyl iddo fe gymryd rhan mewn cynhadledd? Nac ydy. Mae hi’n gobeithio bydd e’n gwneud rhywbeth twp a chael ei arestio. Yn anffodus, wrth iddo fe rhedeg o gwmpas y maes awyr, mae e’n cael ei adnabod gan swyddogion fel…
1002: Cwstard bwriadol
Pam mae llond gwlad o gwstard ar y llawr yn Nhŷ’r Cyffredin? Pwy sy’ wedi cael damwain? Yr enwog Bryn Teribl, yn ôl y sôn! Helpu Santes Dwynwen oedd e? Oedd. Beth oedd Santes Dwynwen yn trio cyflawni? Roedd hi am lenwi’r siambr â chwstard, yn amlwg. Wnaeth hi gwstard arbennig o ffiaidd i wneud…
