Mae Daf y gath wedi rhoi anrheg i’w chariad, Twm. Cath frech yw Twm. Beth yw’r anrheg? Mae hi wedi rhoi llond dwrn o catnip seicedelig iddo. O, Daf. Dyw Twm ddim wedi cymryd catnip o’r blaen. Ac mae catnip Daf yn gryf iawn. Sut fydd Twm yn ymdopi â chyffuriau cathod? Mae Twm yn…
Month: May 2024
956: Cariad
Mae cath newydd yn yr ardal. Dyw’r gath newydd hon ddim yn siarad Cymraeg yn dda iawn. Twm yw ei enw e, a chath frech yw e. Er ei fod e’n siaradwr Cymraeg gwael, mae Daf yn meddwl ei fod e’n olygus iawn. Mae hi’n cwympo mewn cariad ag e. Am annisgwyl. Yn anffodus, mae…
955: Twnnel
Mae tawelwch yn y gwesty. Ble mae’r mam-guod anfad wedi mynd? Pam mae pridd dros y sba i gyd? Mae’r mam-guod wedi gadael. Cloddion nhw dwnnel tanddaearol o dan y sba a rhedeg i ffwrdd wrth ganu “Byddaf yn Goroesi” gan Gloria Gaynor. Wel. Bydd rhaid i rywun ail-lenwi’r twnnel â’r holl bridd. Yn anffodus,…
954: Lluosogi
Yn y pwll nofio, mae’r mam-guod yn teimlo’n oer. Fel Gremlins, maen nhw’n lluosogi. Ac nawr, maen nhw’n colli rheolaeth. Mae Jeff yn edrych ar y fam-gu fwyaf anfad. – Ti yw’r un dwi isie, meddai Jeff. Mae rhywbeth yn diffodd y goleuadau. Mae Odin yn trwsio’r blwch ffiwsys a’u troi nhw ymlaen unwaith eto….
953: Sblasio
Mae lot a sblasio ym mhwll nofio’r sba wedi bod. Ond erbyn hyn mae distawrwydd. Beth sy’ wedi digwydd? Defnyddiodd Jeff y gath y peiriant bingo i yrru’r mam-guod anfad i’r pwll nofio trwy saethu peli atyn nhw. Do’n nhw ddim yn hapus o gwbl. Dechreuon nhw ganu cân erchyll am weu cardiganau o ffwr…
952: Cael gwared
Tra bod pawb arall wedi’u parlysu gan eu hofn o’r mam-guod anfad, mae Jeff y gath yn cynllwynio. Sut mae cael gwared â’r mam-guod anfad? Sut mae eu hela? Mae llawer ohonyn nhw, wedi’r cyfan. Ac yn bwysicach fyth, sut alla i fod yn sicr ‘mod i wedi cael gwared â phob un? meddylia Jeff….
951: Rhyfel y mam-guod
Mae’r mam-guod yn chwarae bingo yn y lolfa unwaith eto. (Mae Daf y gath yn rhywle arall.) Yn sydyn, mae un ohonyn nhw yn gwneud arwydd ar y lleill. Beth sy’n digwydd? A pham mae’r mam-guod yn cario eu nodwyddau gweu fel arfau? Mae’r mam-guod am gymryd drosodd. Ac mae golwg braidd yn ffasgaidd arnyn…
950: Glanhau
Mae Santes Dwynwen wedi bod ar ddihun trwy’r nos, yn glanhau’r gegin. Pam mae Santes Dwynwen yn glanhau’r gegin mor wyllt? Achos bod Daf y gath wedi bod yn chwydu eto. O diar. Cath chwydlyd yw Daf. Mae’r chwydu yn gwaethygu pryd bynnag mae hi’n bwyta losin. Ac mae llawer o losin gyda’r mam-guod sy’…
949: Cyfaddawdu
Mae’r llu o fam-guod wedi ymgasglu yn y lolfa. Maen nhw am chwarae bingo. Maen nhw wedi llogi peiriant bingo, ynghyd ag enwebu galwraig a phopeth. Ond mae Daf y gath am gael cyntun bach yn y lolfa. – Bydd rhaid i ti gyfaddawdu, meddai Santes Dwynwen wrth Daf. – Pwy a ŵyr be fydde’r…
948: Arian poced
Mae Daf y gath yn mwynhau’r ormodaeth o fam-guod sydd wedi ymddangos yng ngwesty Dewi Sant. Maen nhw i gyd wedi dechrau rhoi arian poced iddi hi am ei bod hi wedi bod yn gath dda iawn. Ond mae problem. Does dim pocedi gyda chathod. Ond mae’r mam-guod wrthi’n datrys y broblem hon. Maen nhw…
