Penderfynodd yr enwog Bryn Teribl sefyll yn erbyn Daf y gath yn yr etholiad cyffredinol ar ôl i Owain Glyndŵr dynnu’n ôl fel ymgeisydd. Ond mae Daf y gath wedi bod yn dweud celwyddau brwnt amdano fe hefyd. Ar y dechrau, roedd yr heddlu’n gyndyn o ymateb. Ond yn anffodus mae Daf wedi dyfeisio tystiolaeth…
Month: May 2024
966: Gwastraffu amser yr heddlu
Mae Daf y gath wedi bod yn gwastraffu amser yr heddlu. Galwodd hi am ymchwiliad i weithgareddau amheus yr enwog Owain Glyndŵr, er bod Owain Glyndŵr eisoes wedi rhoi’r gorau i’w ymgyrch. Beth oedd cyhuddiadau Daf? Dwedodd hi fod Owain Glyndŵr wedi bod yn gwerthu Dreamies, a gwneud elwau anghyfreithlon. Dyw hynny ddim yn wir…
965: Cyllideb
Mae Daf y gath yn ymgyrchu fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol. Mae hi eisiau pŵer. Mae hi wedi cyhoeddi na fyddai cyllideb gynnar pe tasai hi’n cael ei hethol. Mewn gwirionedd, fyddai ddim cyllideb byth eto. Pam hynny? Achos ei bod hi’n bwriadu cael gwared ag arian yn gyfan gwbl. Am syndod. Bydd rhaid…
964: Tynnu’n ôl
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn Daf y gath, sydd am ennill yr etholiad cyffredinol. Mae Daf wedi bod yn dweud celwyddau brwnt am Owain Glyndŵr. Dwedodd hi wrth y wasg bod Owain Glyndŵr yn gaeth i gyffuriau. Wel, dyna’r Diafol yn gweld bai ar bechod. Dwedodd hi wrth y wasg…
963: Pêl-droed
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi dechrau ei ymgyrch etholiadol yn erbyn Daf y gath. Dyw e ddim eisiau i Daf ennill yr etholiad cyffredinol. Yn anffodus, dyw Owain Glyndŵr ddim yn deall gwleidyddiaeth. Dyw e ddim yn hoff iawn o siarad â phobl eraill chwaith. O diar. Beth yw dy bolisïau, Owain? Does dim polisïau…
962: Gwasanaeth Cenedlaethol
Mae Daf y gath yn mynd yn ddespret. Mae hi am ennill yr etholiad cyffredinol, ond does neb yn credu ei chelwyddau am hofranfyrddau. Heddiw, mae hi’n cyhoeddi y bydd hi’n dod â gwasanaeth cenedlaethol yn ôl. O, Daf. Mae hi’n dweud bydd rhaid i bobl ifanc wasanaethu yn y fyddin, neu dreulio blwyddyn gyfan…
961: Celwyddau
Mae Daf y gath yn ymgyrchu i ennill yr etholiad cyffredinol. Felly mae hi wedi dechrau dweud celwyddau. Ar ei wefan, “Daf Newydd, Gwlad Newydd”, mae hi’n dweud bydd pethau’n gwella’n syth os ydy hi’n cael ei hethol. Celwydd yw hynny. Does dim llefeleth gyda Daf beth i’w wneud. Mae hi wedi addo y bydd…
960: Addewidion gwag
– Mae pawb eisiau i bethau newid, meddai Daf y gath yn uchel ei chloch. Ond does neb yn gwrando. Maen nhw eisoes wedi cael hen ddigon o’r etholiad cyffredinol. Maen nhw wedi cael hen ddigon o addewidion gwag Daf y gath. – Pe tasech chi’n pleidleisio drosta i, baswn i’n newid popeth, meddai Daf….
959: Etholiad cyffredinol
Mae’r Prifdaten wedi cyhoeddi bydd etholiad cyffredinol. Bydd cyfle i gael prifdaten newydd, a fydd yn union fel yr un blaenorol. O diar. Ond mae Daf y gath yn teimlo’n gyffrous. Pam hynny? Mae hi wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd. Beth fydd ei pholisïau? Dyw hi ddim yn siŵr. Pŵer mae hi eisiau, dyna i…
958: Bwyty
Mae Daf y gath wedi mynd â’i chariad, Twm, i fwyty. Mae’r weinyddes yn gofyn iddyn nhw ydyn nhw eisiau gwin gwyn neu win coch. Dyw Twm ddim yn gallu penderfynu. – Oes cyffuriau seicedelig gyda chi? gofyn Daf. – Nac oes, meddai’r weinyddes. – Ond mae absinthe gyda ni. – Hwrê, meddai Daf, ac…
