Mae gwesty Dewi Sant yn heigio o fam-guod. Mae pla ohonyn nhw. Does neb yn gwybod o le ddaethon nhw, ond maen nhw ym mhobman, fel chwain anferth â gwallt arian sy’n gweu’n wyllt trwy’r amser. Ond mae Daf y gath yn hapus iawn. Pam mae hi’n hapus? Wel, mae pob un o’r mam-guod wedi…
Month: May 2024
946: Fan Halen
Mae Brynhild y lychlynwraig eisiau mynd i Valhalla. – Oni ddylen ni ddefnyddio sillafiad Cymraeg? meddai Daf y gath. Does dim llythyren “v” yn y Gymraeg. – Falle, meddai Brynhild. – Falle ddim. Mae Owain Glyndŵr yn dal i fod off ei ben. Mae e’n gwrando ar Van Halen yn y gornel. – T’wel, meddai…
945: Siop
Mae Daf y gath wedi cael syniad da am fenter newydd. Bydd y fenter hon yn sicr o ennill tamaid bach o arian. Mae Daf wedi sefydlu siop bopeth y drws nesaf i westy Dewi Sant gyda Brynhild y lychlynwraig. Maen nhw’n gwerthu “stwff gwyliau”, yn gynnwys india roc, hetiau, cleddyfau, a chyffuriau. Yn anffodus…
944: Cyfarfod
Mae Brynhild y lychlynwraig wedi bod yn aberthu pethau i Odin. Pethau fel cadeiriau. A byrddau. Mae Odin yn ceisio anwybyddu’r stŵr cyffredinol, gan ei fod e’n ymlacio yn sba’r gwesty. Mae Daf y gath yn penderfynu trefnu cyfarfod. – Hei Odin, meddai Daf yn y sba. – Ma’ ‘na rywun sy isie cwrdd â…
943: Aberth
Mae Llychlynwraig wedi ymddangos yng ngwesty Dewi Sant. Brynhild yw ei henw hi. Mae hi eisiau aberthu rhywbeth i’r Duwiau, ond does dim byd addas yn yr oergell. – Beth am i ni fynd at y cigydd? gofyn Daf y gath. Ond dyw Brynhild ddim yn gwrando ar ei hawgrymiad. Arhoswch am funud. Pam mae…
942: Pwy wyt ti?
Mae pawb, yn gynnwys yr enwog Syd Moron, yn ôl yng ngwesty Dewi Sant. – Pwy wyt ti? meddai Santes Dwynwen wrth yr enwog Syd Moron. – Syd Moron ydw i. – Ble mae’r hen Julian Cope? – Erm, Julian Cope ydw i hefyd. Wel, Julian Cope o’n i’n arfer bod. – Felly pwy wyt…
941: Pwll diwaelod
Mae’r criw wedi cyrraedd y Seithfed Crymych, sydd yn uffern. Cylch uffern yw pob un o’r Crymychs, ond mae’r seithfed yn arbennig o dorcalonnus. Pam hynny? Achos bod y Seithfed Crymych a’r Crymych wreiddiol yn union fel ei gilydd. – Ni ‘di bod yn uffern ers y dechre, ma’n debyg, meddai Daf y gath. –…
940: Gwenwyneg
Yn y Chweched Crymych ym mherfeddwlad Awstralia, mae popeth yn wenwyneg, hyd yn oed y tatws. Yn waeth byth, mae’r holl wenwyn yn rhithbair. Beth sy’n brathu Jeff y gath? Pry cop sy’n brathu Jeff y gath. Beth sy’n brathu Daf y gath? Cyw bach yr haf sy’n brathu Daf y gath. Beth sy’n brathu’r…
939: Ugain darn o arian
Mae Dewi Sant yn hollol anymwybodol o’i amgylchoedd. Mae e’n parhau i gael gweledigaeth ddwyfol diolch i’r llefrith rhithbair yfodd e yn y Pumed Crymych yn y Gogledd. Yn ei weledigaeth, mae e’n crwydro trwy ardd. Gardd hyfryd, werdd yw hi, â llawer o goed ynddi. O helo, dyma rywun sy’n edrych yn bwysig. Iesu…
938: Chwarae mig
Ble mae Owain Glyndŵr? Mae Owain Glyndŵr yn chwarae mig. Am hwyl! Felly ble mae Owain Glyndŵr yn ymguddio? Mae e wedi dod o hyd i guddfan dda iawn, lle na fydd neb yn ei ddarganfod – cuddfan lle mae pryfed gwenwynig iawn ac mae’n boeth drwy’r flwyddyn gron. Ydy, mae Owain Glyndŵr yn ymguddio…
