Mae Jeff y gath yn cael gweledigaeth seicedelig lle mae hi’n teithio yng nghwmni’r enwog Julian Cope ac ymweld â safleoedd cyn-hanesyddol Sir Benfro, sydd yn esgus gwan am ddatblygiad plot. Maen nhw wedi cyrraedd cromlech arall o’r enw Carreg Coetan Arthur. Mae capfaen Carreg Coetan Arthur yn dewach na’r un Pentre Ifan. Mae gan…
Month: September 2023
702: Pentre Ifan
Yng ngweledigaeth seicedelig Jeff y gath, mae’r enwog Julian Cope yn ei harwain ar daith gyn-hanesyddol drwy Sir Benfro. Mae’n amlwg bod gan yr arch-drŵd damcaniaethau. Wrth iddyn nhw gyrraedd Pentre Ifan, y gromlech fwyaf yng Nghymru, mae’r enwog Julian Cope yn dechrau gosod ei syniadau allan. – ‘Set ti’n gallu gweld y Preselau, mae…
701: Crymych
Mae Jeff y gath yn hedfan ar drip seicedelig, ar ôl iddi fwyta cymysgedd o gynhwysion dreamies ynghyd â maint sylweddol o catnip. Mae hi’n cael gweledigaeth. Mae hi’n gweld Crymych yr hen ddyddiau. Mae pobl Oes y Cerrig wrthi’n cerfio meini gleision o’r mynyddoedd, a byw mewn cytiau crynion. Ond pwy yw hwn? Mae…
700: Pen-blwydd
Mae Jeff y gath yn brysur yng nghegin siop lyfrau Dewi Sant yng nghwmni Santes Dwynwen. Maen nhw’n trio rysáit Dreamies cyfrinachol o’r llyfr oren hudolus, achos taw heddiw yw pen-blwydd Daf y gath. Y cynllun yw creu Dreamy anferth sydd yn cynnwys caws arbennig a catnip yn lle cacen ben-blwydd, er mwyn gyrru Daf…
699: Y llyfr oren
Mae Jeff y gath wedi dod o hyd i lyfr annisgwyl ar y silffoedd. Mae e wedi ei rwymo mewn lledr llawn, ac mae’r lledr yn oren llachar. – Beth yw hwnna? gofyn Jeff y gath i Daf ei chwaer. – Sai’mod, etyb Daf. – Sa i ‘di gweld e o’r blân. Mae Jeff yn…
698: Cylchgronau
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi am gyhoeddi cylchgronau amrywiol a’u gwerthu yn siop lyfrau Dewi Sant. Mae hi’n meddwl taw dyna fydd yn ffordd dda i wneud tamaid bach o elw ychwanegol. Ond beth fydd y pynciau? Mae’r enwog Bryn Terfel yn gwirfoddoli i gynhyrchu cylchgrawn am hetiau…
697: Cytseiniaid
Mae’r holl lyfrau yn siop Dewi Sant wedi lleihau oherwydd yr enwog Owain Glyndŵr sydd wedi bod yn bwyta’r llafariaid i gyd. Ond nawr mae argyfwng go iawn. Nawr, mae e wedi dechrau bwyta’r cytseiniaid hefyd. O diar. Cyn bo hir, fydd ‘na ddim byd yn y llyfrau ond tudalennau gwag. – Mae syniad ‘da…
696: Llafariaid
Mae’r holl lyfrau yn siop lyfrau Dewi Sant wedi dechrau crebachu. Beth sydd wedi digwydd? Mae’r llafariaid wedi diflannu! Ydy Jeff y gath wedi bod yn eu hela nhw? Nac ydy. Ydy Daf y gath wedi mynd â nhw ar drip seicedelig ar y catnip? Nac ydy. Mae’n waeth byth. Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi…
695: Jiráff
Mae hen fenyw yn dod i mewn i siop lyfrau Dewi Sant gyda’i jiráff. Yn syth bin, mae’r jiráff yn anelu tuag at y llyfrau am goed a dechrau eu bwyta nhw. Yna, mae’r jiráff yn llewygu. Mae’r hen fenyw yn edrych fel ei bod hi ar fin ei throi hi. – Chewch chi ddim…
