Mae pawb yn syllu’n gegrwth ar westy newydd Daf y gath, sydd yn adfail. Pawb, hynny yw, ac eithrio’r enwog Julian Cope, sydd yn dioddef o’i “ffliw”. Mae e’n honni bod ei lwyth firol yn gwaethygu. Dyw e ddim. Clefyd diglefyd sydd y broblem. Dim ond dod i lawr o’r cyffuriau yw e. Mae e’n…
Month: September 2023
712: Gwesty
Mae Daf y gath wedi prynu gwesty crand ar-lein, ac mae’r criw wedi teithio i Fôn, lle mae’r gwesty. Maen nhw i gyd wedi blino’n shwps erbyn iddyn nhw gyrraedd, gan eu bod nhw wedi cymryd troeon i gario’r enwog Owain Glyndŵr yn ei gromlech. – O na, Daf, be ti di neud? gofyn Jeff…
711: Datgladdu
Diwrnod symud yw e heddiw! Mae popeth wedi’i bacio, yn gynnwys tunnell o Dreamies i’r cathod. Ond. Mae’n anodd datgladdu ein hen gyfaill yr enwog Owain Glyndŵr. Nid yw e am gael ei ddatgladdu o gwbl. Mae e’n hapus yn ei gromlech. Ond mae rhaid iddyn nhw fynd â’r gromlech i’r gwesty mae Daf y…
710: Penderfynu gadael
Mae Dewi Sant wedi cael hen ddigon o’i siop lyfrau. Nawr bod cromlech (yn gynnwys Owain Glyndŵr, sydd wedi ei hunangladdu’n fyw) ynghanol y llawr, mae’n amhosib gwerthu llyfrau i’r cyhoedd. Ar yr enwog Julian Cope yw’r bai. Efe awgrymodd adeiladu’r gromlech. Ac yn awr, mae e’n gorwedd yn bathetig ger yr adran arddio, yn…
709: Hunangladdiad
Tra bod yr enwog Julian Cope yn dioddef o’r ffliw (a dramateiddio tipyn bach), mae Owain Glyndŵr wrthi’n palu fel gwallgofddyn. Mae e wedi penderfynu claddu ei hun o dan y gromlech newydd yn siop lyfrau Dewi Sant fel teyrnged i’w gyndeidiau. Mae’r enwog Bryn Terfel yn sefyll yn browd ar ben y cofadail, yn…
708: Ffliw
Mae ffliw ar Julian Cope. Mae Jeff y gath yn nyrsio’r canwr tra bod Daf y gath yn goruchwylio’r lleill yn adeiladu’r gromlech hollbwysig ynghanol siop lyfrau Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn hollol anymwybodol, gan ei fod wedi yfed gormod a phasio mas eto. – Wnewch chi addo i’m claddu y tu fewn i’r…
707: Claddu
Does neb wedi dod o hyd i ddim byd hanesyddol o bwys wrth gwneud eu cloddio archaeolegol yn siop lyfrau Dewi Sant. Y cwbl maen nhw wedi cyflawni yw gorchuddio’r llyfrau â phridd. Mae’r enwog Julian Cope yn mynd mas, a dychwelyd wedi rhyw chwarter awr yn cario bag plastig llawn o esgyrn, a sawl…
706: Cloddio
Mae’r enwog Julian Cope wedi bod yn gosod ei ddamcaniaeth newydd allan i bawb yn siop lyfrau Dewi Sant. Mae e wedi darganfod taw safle cyn-hanesyddol yw siop Dewi sydd yn gorwedd ar ley-line, ac mae e’n benderfynol dylai’r siop gael ei chloddio. O diar. Mae rhywun wedi rhoi trywel i Owen Glyndŵr. Paid â…
705: Dychwelyd
O’r diwedd, mae trip seicedelig Jeff y gath yn dod i ben wrth i effeithiau’r catnip cryf leihau. – We ti bant am ddyddie, meddai Daf y gath, cyn troi’n ôl at lyfu ei phen ôl.. – Pwy wyt ti? gofyn Jeff mewn dryswch. – Pwy ydw i? Ac yn bwysicach fyth, pwy yw e?…
704: Tân yn Henllys
Yn anffodus, mae gweledigaeth seicedelig Jeff y gath wedi mynd o’r chwith. Roedd yr enwog Julian Cope yn gosod ei ddamcaniaethau am Gastell Henllys allan i Jeff y gath pan gyrhaeddodd heddlu Oes y Cerrig a’u harestio eu dau. Ni all Jeff y gath wneud dim byd. Mae heddlu Oes y Cerrig yn lliwgar ac…
