Yn breuddwydio yn ei gromlech, mae Owain Glyndŵr yn gweld yr enwog Julian Cope yn dod tuag ato fe yng nghwmni Daf y gath. Mae Daf y gath yn cynnig “rhywbeth arbennig” iddo fe. Dyma Owain Glyndŵr yn bwyta Dreamies efo llond gwlad o gyffuriau cryfion ynddyn nhw. Nid yw bwydo Gwir Dywysog Cymru ar…
Month: September 2023
722: Anymwybodol
Er llwyddiant ysgubol amlosgfa Dewi Sant, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn anymwybodol o bob dim. Mae e’n cysgu’n sownd yn ei gromlech. Mae e’n hoff iawn o’i gromlech. Ei le diogel yw e, yn seicolegol ac yn gorfforol. Mae pawb arall yn ddiolchgar iawn, gan nad yw’r enwog Owain Glyndŵr wedi bod yn rhedeg o…
721: Ciw
Tra bod Daf y gath ar drip seicedelig yng nghwmni’r enwog Julian Cope, mae amlosgfa Dewi Sant wedi mynd o nerth i nerth. Mae llawer o alw am wasanaethau’r amlosgfa. Mae ciw hir wedi ffurfio y tu allan iddi. Pwy yw’r cwsmeriaid? Pobl sydd wedi cael damweiniau ar ôl iddyn nhw fynd yn grac am…
720: Amlosgfa
Tra bod Daf y gath ar drip seicedelig arall yng nghwmni’r enwog Julian Cope, mae Dewi Sant wedi penderfynu agor amlosgfa lle’r oedd gwesty Daf. – On’d oes angen trwydded arnat ti? gofyn Jeff y gath wrth iddyn nhw adeiladu’r amlosgfa o friciau’r hen westy. – Dewi Sant ydw i, meddai Dewi Sant, yn datgan…
719: Ulw
Mae Dewi Sant yn gwylio Daf y gath a’r enwog Julian Cope yn diflannu tua’r pellter. Maen nhw eisoes ar drip seicedelig. Pwy a ŵyr pryd fyddan nhw’n ôl. Does dim ond ulw lle’r oedd gwesty Daf y gath yn sefyll. Mae casog Dewi wedi cael ei llosgi yn y tân, hyd yn oed. Mae…
718: Dianc
Mae Daf y gath wedi bomio ei gwesty ei hun a hawlio’r arian yswiriant. Tra bod pawb yn sefyll yn ddryslyd ymhlith yr adfeilion, mae hi’n bwriadu dianc rhag ei chyfrifoldebau yng nghwmni’r enwog Julian Cope. Wfft i redeg gwesty, meddylia Daf y gath, dw i am gael fy mhrofiad seicedelig mwyaf dwys erioed. Fel…
717: Bomio
Mae Daf y gath yn archwilio ystafell orau ei gwesty newydd ym Môn. Mae gwely pedwar postyn ynddi, ynghyd â haenau o lwch, sydd wedi ymgasglu dros flynyddoedd. Mae’r papur wal yn plicio o’r waliau, ac mae drewdod erchyll yn dod o’r ystafell ymolchi. Mae cyflwr y tŷ bach yn arswydus. Does dim byd yn…
716: Cegin
Yn hen westy Daf y gath, mae Santes Dwynwen yn ceisio rhoi rhywfaint o drefn ar y gegin, sydd yn teimlo fel tasg amhosib. Roedd y prif-gogydd diwethaf yn amlwg yn ffan mawr o fwyd Indiaidd, gan fod y waliau yn staeniau cyrri i gyd. Mae chwilen ddu’n sgrialu heibio. Fe ddaw Daf i oruchwylio….
715: Chwain
Mae hen westy Daf y gath yn llawn o chwain. Mae gan y cathod chwain. Mae gan Dewi Sant chwain. Mae gan yr enwog Bryn Terfel chwain. Mae gan Julian Cope chwain, hyd yn oed. Ond mae’r tanddaearol Owain Glyndŵr wedi osgoi’r chwain hyd yn hyn, gan ei fod yn ei gromlech yn y gerddi…
714: Paratoi
Mae Daf y gath a’r criw yn paratoi i agor y gwesty brynodd hi ar-lein. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd, gan mai adfail yw’r hen adeilad. Mae Santes Dwynwen yn sefyll ynghanol beth oedd yn arfer bod yn ystafell ddawnsio. Mae’r llawr pren wedi hen bydru i ffwrdd, ac mae ystlumod…
