Hyd yn oed yn uffern, mae cangen Merched y Wawr. Maen nhw’n cynnig bore coffi traddodiadol, mwy neu lai, ac eithrio eu proceri poeth a’r cythreuliad sydd yn gwneud y te. – Wes catnip? gofyn Daf y gath, yn ei thafodiaith Sir Benfro gref. – Na wes, meddai cythraul, mewn tafodiaith debyg. Pwy a wyddai…
Month: July 2023
642: Bowlio
Wedi diwrnod cyfan o ddawnsio gwerin uffernol a sawl anafiad, mae’r Esgob-ddiawl am barhau i arteithio Dewi Sant, Santes Dwynwen, yr enwog Bryn Terfel a’r cathod yn uffern. Ac mae e wedi cael syniad arteithiol arall. – Amser bowlio! meddai’r Esgob-ddiawl. – Ond sdim lawnt fowlio fan hyn yn uffern, cwyna Dewi Sant. – Sa…
641: Dawnsio gwerin
Mae’r seintiau yn uffern yng nghwmni’r cathod a’r enwog Bryn Terfel. Yn anffodus, mae’r Diawl (sef yr Esgob mewn gwisg ffansi) yn eu harteithio nhw. Ddoe, roedd e’n mynnu eu bod nhw’n bwyta tunelli o frocoli. Heddiw mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth. Ar ôl iddo fe orfodi pawb i wisgo gwisg traed…
640: Brocoli
Does dim bwyd cathod yn uffern. Does dim Dreamies hyd yn oed. Ond mae brocoli. Mae llwyth o frocoli. Tunelli ohono fe. – Dim diolch, meddai Daf y gath wrth i’r Esgob-ddiawl gynnig plât arall o’r stwff gwyrdd erchyll iddi hi. – Sa i isie fe. Ond mae’r Esgob-ddiawl yn mynnu. Am artaith. Saesneg /…
639: Gwisg traed
Yn uffern, mae’r enwog Bryn Terfel yn drist iawn. Mae e wedi cael ei orfodi i dynnu ei het ysblennydd. Ni chaniateir hetiau ysblennydd yn uffern, na ddim byd sydd yn achosi llawenydd. Mae uffern fel Stoke-on-Trent, ond yn waeth byth. Ond mae llawer o wisg traed: esgidiau platfform, sodlau uchel iawn, esgidiau sglefrio, hynny…
638: Troseddau
Pam mae’r Esgob yn uffern, yn gwisgo gwisg ffansi sydd yn gwneud iddo fe edrych fel y Diawl? Oherwydd ei droseddau. Pa droseddau? Annwyl ddarllenwr, byddai’n well gyda chi beidio gwybod. Pam mae cyn-aelodau’r band jazz-funk sanctaidd, yn gynnwys y cathod a Santes Dwynwen, yn uffern? Maen nhw yno ar gam, achos mai twpsynnod ydyn…
637: Uffern
Yn anffodus, roedd y drysau ar waelod y bongos yn dweud celwyddau. Arweiniodd y ddau ohonyn nhw’n yn syth i Uffern. O diar. Peidiwch â mynd heibio i “Go”. Peidiwich â chasglu dau gan punt. Mae’n uffernol o boeth yn Uffern, digwydd bod. Mae pawb yn chwysu, ac mae Dewi Sant eisiau cwrw. Dyma’r Diawl….
636: Agor y bongos
Mae Daf y gath yn chwilio am hud a lledrith y tu fewn i bongos Jeff y gath gan fod y band jazz-funk sanctaidd wedi dod i ben. Does dim ots gyda’r enwog Bryn Terfel am y band rhagor. Mae e wedi dod o hyd i het ysblennydd newydd. Mewn gwirionedd, bwced tân yw’r het….
635: Wedi meddwi
Ar ôl i’r enwog Bryn Terfel geisio ail-sodro peiriant drymiau Daf y gath yn fyw ar y llwyfan, dim ond lwmpen o blastic a metel wedi’i toddi yw e. Dyw’r enwog Bryn Terfel ddim yn un da am sodro. Ond nawr mae problem fwy. Mae Dewi Sant wedi meddwi eto. Mae e wedi yfed tan…
634: Peirianyddion
Mae Daf y gath wedi llwyddo i ganfod siop peiriannydd peiriannau drymiau yn y porthladd. “Drymiau digidol” ydyw enw’r siop. Felly, mae problem. Mae calon Daf yn suddo. Pam? Achos bod ei pheiriant drymiau hi’n hollol analog. O diar. Mae hi’n dychwelyd i’r llong fordaith yn drist, a dweud y newyddion wrth aelodau eraill y…
