Mae’n oer. Dyma ein hoff ganwr opera yn eistedd yn dawel yn yr oergell. Mae’n oer yn yr oergell. Dyw’r enwog Bryn Terfel ddim yn gallu teimlo ei fysedd. Dyw’r enwog Bryn Terfel yn ymwybodol o ymweliad yr arolygwyr hylendid bwyd, sydd wedi cau’r bwyty i lawr, chwaith. Roedd e am chwarae cwato gyda’r enwog…
Month: July 2023
652: Arolygwyr
Mae Dewi Sant a Daf y gath wedi mynd i banig. Mae’r arolygwyr hylendid bwyd wedi galw draw i’r bwyty, ac maen nhw eisiau gweld popeth yn y gegin. Yn anffodus does dim esboniad call pam mae’r enwog Owain Glyndŵr yn rhedeg o gwmpas yn gwasgaru caws wedi’i gratio dros y lle i gyd gyda…
651: Adloniant am ddim
Mae’r enwog Bryn Terfel am gynnig adloniant ym mwyty Dewi Sant a Daf y gath. Ond Mae Dewi Sant yn gadarn yn erbyn ailffurfio’r band Jazz-Funk sanctaidd. Ond mae’r bwyty’n llawn o gathod meddw, ac maen nhw’n aflonyddu. Mae Bryn Terfel yn tynnu’r tun rhostio y mae e’n ei wisgo fel het ysblennydd a meddwl….
650: Chwant snaciau
Mae bwyty Dewi Sant a Daf y gath yn llawn dop o gathod meddw ar ôl i Daf ddechrau gweini space-cakes sy’n cynnwys catnip. Mae hyn yn fuddiol iawn. Ond yn anffodus mae chwant snaciau dwys arnyn nhw i gyd, ond mae pawb yn rhy feddw o lawer i fynd i’r siopau. Does dim byd…
649: Gwag
Mae’r bwyty yn wag. Does neb eisiau bwyta brechdanau caws ofnadwy Owain Glyndŵr, hyd yn oed ar ôl iddo fe ddechrau defnyddio caws arbennig. Yn sydyn, mae Daf y gath yn cael syniad. – Beth am i ni wneud space-cakes sy’n cynnwys catnip? meddai hi. Mae Dewi Sant yn amheugar. – Byddai’n gyfreithlon. Gallwn ni…
648: Brechdanau
Doedd y tân yn y bwyty ddim yn rhy ddifrifol. Diolch byth. Ond gan fod y tostiwr wedi toddi, does dim modd i’r enwog Bryn Terfel goginio rhagor. Mae Owain Glyndŵr am roi cynnig ar wneud brechdan. – Fydd e ddim yn saff gyda chyllell, meddai Daf y gath wrth Dewi Sant. – Pwynt teg,…
647: Tostiwr
Mae arogl llosgi yn y bwyty. Mae Daf y gath mewn dimensiwn arall ar y catnip, felly does dim ots gyda hi. Gallai’r lle losgi yn lludw, a fyddai hi ddim yn sylwi. Ers i Dewi Sant a Daf y gath agor y bwyty, mae Jeff y gath wedi bod yn hela cig. Mae hi’n…
646: Casserole efeilliaid
Yn syth ar ôl i bawb ac eithrio Santes Dwynwen adael uffern, mae Daf y gath a Dewi Sant yn penderfynu agor bwyty. Nid yw Dewi Sant yn un da am goginio. Ond bydd Jeff y gath yn dda iawn am hela’r cig. Gall Daf y gath ofalu am yr arian. Pwy sy’n mynd i…
645: Taith gerdded
Mae’r criw yn dechrau cerdded allan o uffern. Mae map a phopeth. Mae Daf y gath yn dwyn procer poeth ar ei ffordd allan. Bydd e’n ddefnyddiol nes ymlaen, siŵr o fod. Pwy yw hwnnw yn y pellter? Mae rhywun yn dod i gwrdd â nhw. Mae e’n gwisgo arfwisg a baner. O diar. Ynfytyn…
644: Diswyddiad
Does dim gweithgareddau diddorol yn uffern heddiw. Pam lai? Achos bod yr Esgob-ddiawl wedi cael y sack ei hunan! Am ryfeddol! Pam? Pwy a ŵyr. Mae uffern yn symud mewn ffyrdd dirgel – fel Duw, ond gyda mwy o broceri poeth. Felly, mae ein prif gymeriadau’n rhydd i adael unrhyw bryd. Ond mae problem. Wrth…
