Mae’n anodd cysgu yn uffern. Pam? Wel, mae’n boeth iawn, i ddechrau. Ond hefyd mae cangen Merched y Wawr uffern yn mynnu canu trwy oriau man y bore. Maen nhw’n canu caneuon uffernol, eisteddfodol. Mae Daf y gath am fynd mas. Ond nid oes tyllau cath yn uffern. English / Saesneg Lack of sleep It’s…
Month: July 2023
662: Cymharu
Mae Daf y gath yn prysur cymharu pethau yn uffern. – Ddylwn dy gymharu â diwrnod haf? meddai hi i’r cythraul agosaf. – Dim diolch, meddai’r cythraul. – Mae cwstard sinamon Santes Dwynwen yn debyg i lud, nag yw e? gofyn Daf i Jeff ei chwaer. – Ody. Beth amdana i? meddai Jeff. – I…
661: Cadair
Yn y syrcas, mae gan yr enwog Owain Glyndŵr act newydd. Mae e wedi dod o hyd i hen gadair, ac mae e’n bwriadu gwneud campau gyda hi. Mae e’n gorymdeithio i’r llwyfan, a thynnu ei holl arfwisg a’i isddillad ac eithrio ei drôns (sydd yn syfrdanol o liwgar) cyn taflu’r gadair i’r awyr a…
660: Gweledigaeth
Yn y syrcas, mae Dewi Sant yn y babell fawr, yn gwylio’r enwog Bryn Terfel, sydd yn perfformio unwaith eto ar y trapîs yn ei wisg Siôn Corn. Doedd e ddim am ddychwelyd i uffern, hyd yn oed er mwyn ymweld â Santes Dwynwen. Mae Dewi yn cael ei hypnoteiddio gan symudiadau’r canwr opera ar…
659: Yn ôl i uffern
Mae Daf y gath wedi cael hen ddigon o’r syrcas. Er bod yr enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr yn cael llwyddiant helaeth fel diddanwyr, mae Daf wedi methu. Mae Daf a Jeff ei chwaer yn penderfynu mynd i weld Santes Dwynwen yn uffern, lle mae hi wedi ymuno â changen Merched y Wawr…
658: Methiant
Mae Daf y gath wedi bod yn rhoi prawf ar act dofi llewod. Dyw’r act ddim yn enwedig o lwyddiannus. Mae hi’n cynnig Dreamies i’r llewod yn gyfnewid am wneud triciau. Ond dyw’r Dreamies ddim o ddiddordeb i’r llewod. Mae Daf yn cynnig Owain Glyndŵr fel trît blasus. Byddai’n braf cael gwared arno fe. Ond…
657: Dofwr llewod
Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr yn cael eu tali’n helaeth am eu rhannau yn y sioe. Maen nhw’n mwynhau cymryd rhan yn y syrcas. Mae Bryn Terfel yn prynu bag enfawr o Dreamies i’r cathod. Am hael! – Beth am i ni ymuno â’r syrcas hefyd? gofyn Daf y gath i’w chwaer…
656: Trapîs
Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr wedi rhedeg i ffwrdd i ymuno â’r syrcas. Mae Bryn Terfel yn gwisgo gwisg Siôn Corn. Maen nhw’n rhedeg o gwmpas y babell fawr yn wyllt wrth i’r gynulleidfa gymeradwyo. Mae Dewi Sant a’r cathod yn syllu arnyn nhw’n gegrwth. Ond beth sy’n digwydd nawr? Mae’r enwog…
655: Syrcas
Ble mae’r enwog Owain Glyndŵr? Does neb yn gwybod. Diflannodd e rywle ger Crymych. Rhedodd i ffwrdd, yn chwifio ei freichiau yn yr awyr a hwtian fel tylluan anferth. Mae’n dawel, o leiaf. Mae Jeff y gath yn llawer hapusach hebddo fe, ac mae ei phen tost hi wedi diflannu gyda’r hen leban. – Beth…
654: Tywydd ansefydlog
Ar ôl i’r bwyty gau, mae’r criw yn crwydro. Does ganddyn nhw ddim awydd i fynd yn ôl i’r hen ardd. Mae Owain Glyndŵr yn anodd ei reoli. Yn ogystal â gwneud lap o anrhydedd achlysurol, mae e wedi dechrau dringo ar geir a neidio lan a lawr fel y lleban y mae e. Mae’r…
