Wedi crwydro’r anial am ddeugain dydd, mae chwant bwyd ar Dewi Sant. Mae e wedi colli pwysau. Mae e wedi trio bwyta’r llwyni, ond mae blas petrol arnyn nhw. Dyw e ddim yn gallu dal cŵn gwyllt; does dim tun rhostio gyda fe yn yr anial er mwyn eu coginio beth bynnag. Felly, mae e’n…
Month: June 2023
611: Dewi Sant yn yr anial
Hyd ers iddo fe gael y sack gan yr Esgob, mae Dewi Sant wedi bod yn crwydro’n ddi-baid, heb unrhyw syniad am ble mae e’n mynd. O diar. Yn yr anial y mae e. Does dim llawer yn yr anialwch, ac eithrio cwpl o gŵn gwyllt ac ychydig o lwyni. Ond mae e’n penderfynu crwydro’r…
610: Gig cyntaf
Mae Eifion Sant wedi trefnu gig mewn tafarn leol i’r band jazz-funk er mwyn tynnu sylw’r enwog Bryn Terfel oddi ar ei dun rhostio. Yn anffodus, mae Bryn Terfel eisoes wedi dinistrio ei gitâr fas, felly bydd rhaid iddo fe ganu’r llinell fas. Mae Jeff y gath yn gwrthod canu’r bongos o hyd, felly dyma…
609: Gitâr fas
Mae’r enwog Bryn Terfel yn eistedd mewn cornel. Hyd ers i Eifion Sant benderfynu ffurfio band jazz-funk sanctaidd, mae’r canwr anhrefnus wedi bod yn ceisio dysgu canu’r gitâr fas. Nid yw e’n enwedig o lwyddiannus. Yn anffodus, mae e wedi camddeall. Mae e wedi bod yn curo’r gitâr gyda charreg. Mae Daf y gath wedi…
608: Ymrafael am rym
Hyd ers i’r octopws Eifion Sant ddod yn nawddsant newydd Cymru, mae ymrafael am rym. Pam? Oherwydd ei dun rhostio, sydd yn cymryd lle gorsedd. O diar. Dyna’r enwog Bryn Terfel, yn eistedd mewn cornel yn ei y-fronts a’i het hances, yn cadw llygad ar dun rhostio Eifion Sant. Mae rhaid tynnu ei sylw at…
607: Gwasanaeth y tentaclau
Mae’r octopws Eifion Sant ac Eric y robot, sydd â deallusrwydd artiffisial, i fod i weithio ar drefn gwasanaeth newydd, a fydd yn cynnwys llawer mwy o dentaclau. Ond mae gan Eric ei syniadau ei hun. Mae e’n chwilio ei holl ddata am gyfeiriadau at dentaclau a ffeindio… Chthulhu. O diar. Yn anffodus, mae Eric…
606: Nawddsant newydd
Mae’e Esgob wedi sefydlu Eifion yr octopws fel nawddsant newydd Cymru yn lle Dewi Sant. Eifion Sant yw e bellach. Yn lle gorsedd fawr, mae Eifion Sant yn eistedd mewn tun rhostio ysblennydd, sydd wedi ei haddurno â gemau, a’i llenwi â dŵr. Mae’r Esgob wedi rhoi cyfarwyddiadau i bawb yn yr ardd dynnu sied…
605: Gyrfa mewn adfeilion
Mae gyrfa Dewi Sant mewn adfeilion. Yn anffodus mae neges destun sydd yn ei argyhuddo ymhlith negeseuon Whatsapp y cyn-Prifdaten. Beth mae e wedi gwneud? Mae’n debyg y cafodd ei weld yng nghwmni Daf y gath, yn achosi trafferth trwy fwydo colomennod â chwstard Santes Dwynwen yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Does dim yr…
