Ar fwrdd y llong fordaith, does dim gig i’r band jazz-funk sanctaidd heno. – Sai’mod be sy my’ ‘mlan ‘da Dewi Sant ‘eddi’, meddai Daf y gath wrth ei chwaer Jeff. – Falle bydd e’n well fory, meddai Jeff. – Falle, falle ddim, meddai Daf, – Ma fe ‘di bod yn chwydu ers sbel, twel….
Month: June 2023
631: Llong fordaith
Rhywsut, mae Santes Dwynwen wedi trefnu preswylfa i’r band ar fwrdd llong fordaith. Mae llawer o hen bobl ar fwrdd y llong. Maen nhw eisiau cael amser tawel ar eu gwyliau nhw, a gweld adloniant cyfarwydd yn yr ystafell ddawnsio. Felly, ‘dyn nhw ddim cweit yn barod i glywed jazz-funk sanctaidd Dewi Sant a pheiriant…
630: Ymwahanu
Mae’r band jazz-funk sanctaidd wedi ymwahanu oherwydd gwahaniaethau artistig. Mae Daf y gath a’i pheiriant drymiau am fynd i gyfeiriad techno. Wrth gwrs. – Bmm, tssh, meddai’r peiriant drymiau. Mae’r enwog Bryn Terfel am ddawnsio o gwmpas yn ei y-fronts i gyfeiliant thema Sam Tân. Mae’n rhyfedd nad yw e wedi cael ei arestio erbyn…
629: Anghofio
Mae Dewi Sant ar y llwyfan yng nghwmni Daf y gath a’r enwog Bryn Terfel, sydd yn meimio gydag ysgubell gan ei fod wedi bwyta ei gitâr fâs. Mae Jeff y gath wedi hen fynd. Mae ei bongos hi ar y llwyfan hebddi hi. Maen golwg unig iawn arnyn nhw. Mae’r gig yn mynd yn…
628: Triawd
A Jeff y gath wedi ymddiswyddo fel chwaraewr bongos, dim ond triawd yw’r grŵp jazz-funk sanctaidd erbyn hyn. A chan fod yr enwog Bryn Terfel wedi bwyta ei gitâr fas ddiweddaraf rywsut, dim ond deuawd o Dewi Sant a Daf y gath yw e mewn gwirionedd. Mae eu taith fyd-eang hudolus nhw wedi bod yn…
627: Neuadd bentre
Heno, bydd gig y band jazz-funk sanctaidd mewn neuadd bentref ar ochr mynydd. Mae’r tywydd yn gas. Maen nhw’n cael eu croesawu gan hen ddyn mewn siwmper liwgar, sydd yn dweud bod system PA “a phopeth” yn y neuadd. Does dim “popeth”. Mae peiriant carioci a hen deledu. Dyna i gyd. Mae Jeff y gath…
626: Fferi
Ar ynys fydd y gig nesaf, mae’n debyg. Wedi cyrraedd porthladd anhysbys, mae’r gyrrwr dirgel yn parcio’r bws teithio yn y maes parcio a mynd i brynu tocyn fferi dwyffordd. Yn y cyfamser, mae Jeff y gath wedi penderfynu ei bod hi wedi cael hen ddigon o’r gwiriondeb taith fyd-eang hwn. Mae hi’n ceisio difrodi’r…
625: Lerpwl
Yn ôl ar y bws teithio â nhw, ac mae eu gyrrwr dirgel yn anelu at Lerpwl. Mae Dewi Sant a gweddill y band yn dadlwytho eu hofferynnau. Mae’n debyg eu bod nhw’n chwarae gig heno mewn ogof o dan y ddaear. O diar. Does dim system PA na thrydan. Yn ffodus mae peiriant drymiau…
624: Merched y Wawr
Mae’n debyg fod band jazz-funk sanctaidd Dewi Sant a’r cathod wedi cael ei fwcio gan gangen Merched y Wawr Aberystwyth. Yn anffodus, mae’r merched bonheddig yn meddwl bod yr ysgrifenyddes wedi bwcio Dafydd Iwan. Yn anffodus dim. Mae Dewi a’r cathod yn gogrynu ar y llwyfan a chwarae darn arbrofol erchyll cyn i’r enwog Bryn…
623: Bws teithio
Ar frig y goeden ffa, mae’r band jazz-funk sanctaidd yn camu trwy’r drws hudolus â’r geiriau “TAITH FYD-EANG” arno fe, yn syth i fws teithio. Mae’r bws eisoes ar ei ffordd i’w gig nesaf nhw. – Ble ni’n chwarae’r gig heno? meddai Daf y gath, sydd yn rhaglenni ei pheiriant drymiau â phatrymau newydd yn…
