Mae Dewi Sant wedi arwain yr enwog Bryn Terfel a’r cathod trwy ddrws hudolus â’r geiriau “MARWOLAETH WARANTEDIG” arno ar gam. Ar ochr arall y drws, mae popeth yn ddu. ‘Dyn nhw ddim yn gallu gweld dim byd. Mae’r sefyllfa’n codi ofn ar Daf y gath, sydd yn dechrau cnoi ei thraed a chrynu. –…
Month: June 2023
621: Drysau
Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i ddau ddrws hudolus mewn cwmwl ar frig y goeden ffa. Mae geiriau a lluniau ar y drysau. Mae llun o fand roc ar y drws i’r chwith ohono fe, ynghyd â’r geiriau “TAITH FYD-EANG”. Mae llun o benglog ar y drws i’r dde ohono fe, ynghyd â’r…
620: Sul y tadau
Sul y tadau yw e. Mae Dewi Sant yn cael cyntun bach ymlith y cymylau ar ben y goeden ffa hudolus. Mae e’n cael gweledigaeth. Yn ystod y weledigaeth, mae tad Dewi Sant – a fu farw gannoedd o flynyddoedd yn ôl – yn dod i ymweld ag e. Doedd Dewi ddim yn hoff iawn…
619: Gwisg band
Mae dadl ymhlith y cymylau. Fel pob un band arall, mae Dewi Sant, y cathod a’r enwog Bryn Terfel yn dadlau am beth ddylen nhw wisgo ar y llwyfan. Mae Dewi Sant yn bendant dylen nhw wisgo rhyw fath o iwnifform. Does dim ots gyda’r cathod. Ond mae’r enwog Bryn Terfel yn gyndyn o roi’r…
618: Yr enwog Bryn Terfel a’r cawr
Ar ôl iddyn nhw ddringo’r goeden ffa â chwrdd â’r enwog Bryn Terfel, mae pawb wedi blino. Does dim llawer sydd o ddiddordeb i’r cathod yn y cymylau. Mae’n rhy uchel i gael pethau i’w lladd. Yn sydyn, mae cawr yn ymddangos o nunlle. Am beryglus! Ond er syndod pawb, mae e’n rhoi tun rhostio…
617: Ym mrigyn y goeden ffa
Nid yw llusgo pâr o bongos i lan goeden ffa hudolus yn hawdd i gath fach. Ond mae Jeff y gath yn benderfynol o lwyddo, er ei bod hi’n ymwybodol iawn fod y dasg yn un dwp. Mae’n cymryd diwrnod cyfan i’r grŵp o Dewi Sant a’r ddwy gath gyrraedd brig y goeden ffa. Mae…
616: Planhigyn ffa
A Jeff y gath newydd gyrraedd yr anial, mae un o blanhigion ffa Dewi Sant yn dechrau tyfu’n wyllt. Cyn bo hir, mae pen y planhigyn wedi’i guddio yn y cymylau. Ffeuen hudolus oedd hi! Wrth gwrs yr oedd hi. – Rhaid i ni neud y peth mwyaf amlwg, meddai Dewi Sant. – Rhoi dy…
615: Bongos
Ar ôl i’r storm orffen, mae Dewi Sant a Daf y gath yn teimlo’n ddiflas. Maen nhw’n socan a chrynu gydag oerni. Ond beth yw hynny ar y gorwel? Dyna siâp arall. Siâp dynol yw e? Nac ydy. Rhywbeth ar bedair coes sydd yn llusgo pâr o bongos yw e. Dyma Jeff y gath, wedi…
614: Storm
Mae hi wedi bod yn braf yn ddiweddar, ac mae Dewi Sant a Daf y gath wedi bod yn cael amser da yn yr anial heb bawb arall o’r ardd. Mae Daf bron wedi anghofio am ei band jazz-funk, ac mae Dewi wedi llwyddo i dyfu cwpl o blanhigion ffa. Yn ffodus, mae Daf wedi…
613: Cwmni
Yn yr anial, mae Dewi Sant yn digalonni. Mae ei ymdrechion i fraenaru’r tir wedi bod yn aflwyddiannus. Ond beth yw hynny yn y pellter? Siâp dynol yw e, efallai? Nac ydy. Daf y gath yw e. Mae hi hefyd wedi dod i’r anial. Pam? Mae Daf y gath wedi cael hen ddigon o’r enwog…
