Mae Dewi Sant o flaen ei well. Mae e wedi cael ei gyhuddo o dalu miloedd o bunnoedd i Santes Dwynwen er mwyn ei chadw hi’n dawel. Beth yw’r gyfrinach? Does dim cyfrinach go iawn. Dyw e ddim wedi ei cham-drin hi, na wneud dim byd erchyll tebyg. Dim ond bach o hwyl cawson nhw,…
Month: April 2023
539: Gwiwerod
Mae argyfwng heddiw, er bod y tywydd yn braf. Mae cannoedd o wiwerod yn yr ardd. Does neb yn gwybod pam. Maen nhw’n cnoi popeth. Mae sied Dewi Sant wedi cael ei chnoi, mae peli jyglo’r chwarter-siarc wedi cael eu cnoi, ac mae peiriant cwstard Santes Dwynwen wedi cael ei gnoi. Am lawer o gnoi!…
538: Tenynnau
Un tro, mae’r staff am geisio mynd â’r cathod am dro ar denynnau. Mae’r cathod yn hollol yn erbyn y syniad ffôl hwn, ond mae’r staff yn benderfynol. Maen nhw’n hela’r cathod drwy’r tŷ gyda’r thenynnau yn eu dwylo. Mae Jeff wedi cyrraedd pen ei thennyn. Mae hi’n mynd i ymguddio y tu ôl i’r…
537: Carchar am oes
Mae Eifion yr octopws wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio Franz Kafka wedi diflaniad Franz Kafka o dun rhostio’r enwog Bryn Terfel. Mewn gwirionedd, mae Franz Kafka’n dal i fyw. Bwytodd Eifion hudfa a ddefnyddiwyd gan Franz Kafka i dynnu sylw’r octopws llwglyd oddi ar y Kafka go iawn. Galwodd cyfreithiwr…
536: Diflaniad Franz Kafka
Mae’n ddiwrnod gwanwynol braf yn yr ardd. Does dim anhrefn am unwaith. Ond mae’r selsig i gyd wedi mynd. Gall hynny’n golygu dim ond un peth: mae Franz Kafka hefyd wedi mynd. Mae hi fel nad yw e erioed wedi bodoli. Does dim sôn ohono fe. Arhoswch funud – pam mae tun rhostio’r enwog Bryn…
