Mae tusw o flodau wedi cyrraedd. Ar gyfer pwy mae’r tusw? ‘Dyn nhw ddim ar gyfer y chwarter-siarc. Alergaidd yw e. ‘Dyn nhw ddim ar gyfer yr enwog Bryn Terfel. Fyddai neb yn prynu tusw o flodau iddo fe. Byddai fe’n bwyta’r cwbl lot wrth redeg o gwmpas yr ardd. Mae label ar y tusw….
Month: April 2023
549: Newidiadau
Mae pawb yn mwynhau canu emynau William Williams Pantycelyn. Ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n mwynhau ei drefn newydd. Mae popeth yn dawelach nag o’r blaen. Ond yn araf bach, mae e wedi bod yn gwneud newidiadau eraill, heb i neb sylweddoli, er mwyn i bawb gyrraedd y nefoedd. Mae e’n gwahardd Dewi Sant rhag…
548: Emyn Franz Kafka
Mae William Williams Pantycelyn yn swyno pawb yn yr ardd o hyd gyda’i emynau. Mae Samuel Beckett yn dal i guddio y tu fewn i’r piano gyda’i hoff fanana, felly does dim ots gyda fe. Ond mae Franz Kafka wedi penderfynu cystadlu yn erbyn William Williams Pantycelyn ynglŷn ag ysgrifennu emynau. Mae e eisiau profi…
547: Hedd
Mae cyrhaeddiad William Williams Pantycelyn wedi dod â newidiadau mawr i’r ardd. Mae’r bardd enwog yn cadw trefn ar bawb a phopeth. Mae’r tatws wedi stopio ffraeo. Mae’r enwog Bryn Terfel yn eistedd yn dawel yn lle rhedeg o gwmpas gyda’i dun rhostio ar ei ben, hyd yn oed. Am bedwar o’r gloch yn y…
546: Emynau
Mae William Williams Pantycelyn wedi troi lan yn yr ardd. Mae e wedi dod â’i organ gludadwy bychain, y mae e’n ei wisgo ar strap lledr dros ei ysgwydd chwith, fel seren bop o’r wythdegau. Ond nid oes peiriant drymiau yn organ Pantycelyn. Mae’r enwog Bryn Terfel yn genfigennus. Hoffai e gael organ gludadwy bychain….
545: Het Dafydd Iwan
Mae’r hetiwr wedi bod yn brysur. Erbyn hyn, mae gan bawb ddwsin o hetiau’r un o leia, heblaw Bryn Terfel, sydd wedi gwrthod cynnyrch yr hetiwr a mynd yn ôl at wisgo ei dun rhostio. Heddiw, mae’n bwrw glaw, sydd yn sicr o olygu y bydd Dafydd Iwan yn troi lan unrhyw funud. Ah, dyma…
544: Yr hetiwr
Mae Daf y gath wedi cael hen ddigon ar yr enwog Bryn Terfel yn dwyn pethau o bwys er mwyn eu gwisgo nhw fel hetiau ysblennydd. Daeth y gwelltyn olaf wrth i’r enwog Bryn Terfel ddwyn powlen fwyd Daf. Felly, mae Daf wedi penderfynu datrys y broblem trwy gyflogi hetiwr personol ar gyfer yr enwog…
543: Het newydd Bryn Terfel
Mae het newydd gyda’r enwog Bryn Terfel, sydd wedi cael hen ddigon o wisgo ei dun rhostio erbyn hyn. Ond beth yw ei het ddiweddaraf? Powlen fwyd cath yw hi. Roedd e wedi gobeithio gwisgo woc, ond doedd y woc ddim yn edrych yn ddigon ysblennydd. Pa mor ysblennydd yw’r bowlen, ‘te? Ysblennydd iawn yw…
542: Bara croglith
Dydd Gwener y Groglith yw heddiw, ond does neb yn yr ardd yn meddwl am y croeshoeliad tan i Santes Non gwyno’n uchel am eu diffyg o barch. Mae Dewi Sant yn agor paced o fara croglith. – Faint costion nhw? mae Jeff y gath yn gofyn. – Ges i nhw am geiniog yr un,…
541: Traed
Dydd Iau Cablyd yw heddiw. Mae pawb yn golchi eu traed yn wyllt rhag ofn i Dewi Sant ddweud rhywbeth amharchus amdanyn nhw yn ystod y gwasanaeth nos Iau Cablyd, a fydd yn ei sied gan ei fod wedi colli ei eglwys. Dyw Daf y gath ddim yn hoff iawn o gael golchi ei thraed….
