Mae Owain Glyndŵr yn rhedeg o gwmpas yr ardd yn gyffrous. Mae e wedi derbyn gwahoddiad i Goroni’r Brenin Mawrglustiau. Am ryfeddol. Dyma gyfle i’r enwog Gwir Dywysog Cymru herio’r drefn a choron Lloegr. Beth fydd angen? Arfau bydd angen. Ond yn anffodus, mae Dewi Sant eisoes wedi cymryd cleddyf Owain Glyndŵr oddi wrtho fe,…
Month: April 2023
559: Lan a lawr
Mae’r enwog Owain Glyndŵr yn styc ar y to, ac mae pen tost arno fe, ar ôl iddo lyfu pêl o catnip cryf. Mae e’n cwynfan fel cath fach a gwylltio pawb. Mae Daf y gath yn gwybod yn iawn beth sydd angen ei wneud. Mae hi’n siffrwd bag Dreamies. Yn sydyn, mae’n debyg nad…
558: Ystadegau
Mae Daf y gath yn gwirio’r ystadegau. Ddoe, rhedodd Owain Glyndŵr o gwmpas yr ardd dri chant o weithiau. Does dim rhyfedd ei fod e wedi blino heddiw. Tybed beth fyddai’n digwydd ‘se fe’n cael profiad seicedelig ar y catnip, meddylia Daf. Gawn ni weld. Mae hi’n cynnig pêl galed o catnip i Wir Dywysog…
557: Canu
Dyma debygrwydd arall rhwng Gwir Dywysog Cymru a’r enwog Bryn Terfel: mae e’n hoff iawn o ganu. Pan nad yw e’n rhedeg o gwmpas yn wyllt, mae e’n canu Calon Lân nerth ei ben. Cymeriad diddorol yw Owain Glyndŵr. Mae Margaret ferch Owain yn ceisio cael sgwrs gyda’i thad. – Dadi, gawn ni siarad plîs?…
556: Arfwisg
Cyn bo hir, mae’n dod yn amlwg pam mae’r enwog Owain Glyndŵr yn gwisgo arfwisg. Mae e’n dueddol iawn o gael damweiniau wrth wneud pethau twp. Mae e newydd gwympo yng ngwely’r rhosod wrth ddringo’r ffens ar ôl prynhawn cwbl o redeg yn afreolus o gwmpas yr ardd. Dyw’r Gwir Dywysog Cymru ddim yn gwneud…
555: Cyrhaeddiad Owain Glyndŵr
Mae cnoc arall ar y llidiart gefn. Pwy yw e? Owain Glyndŵr yw e! Sut olwg sydd arno fe? Digwydd bod, mae e’n edrych yn debyg iawn i’r enwog Bryn Terfel. Mae e’n gwisgo arfwisg ysblennydd, ddisglair. Ond does dim helmed gyda fe. Sut ddyn yw e? Mae e’n ymddangos yn gyffroadwy iawn. Mae e’n…
554: Dychweliad y tun rhostio
Wedi cael gwared ar yr enwog Bryn Terfel unwaith ac am byth, am ei fod yn mynd i ganu ar gyfer y Brenin Mawrglustiau, mae’r cathod yn rhyfeddu wrth glywed cnocio metelaidd ar y llidiart gefn. Pwy yw e? Y tun rhostio yw e! Mae’r tun rhostio wedi gwrthod cymryd rhan yn y syrcas brenhinol…
553: Colandr
Mae’r enwog Bryn Terfel yn rhedeg o gwmpas yn gyflymach nag arfer. Mae e wedi derbyn llythyr! Gwahoddiad yw’r llythyr. Mae’r llythyr yn gofyn i’r enwog Bryn Terfel ganu yng nghoroniad y Brenin Mawrglustiau. Ond pa fath o benwisg fyddai’n briodol? Dyw ei dun rhostio ddim yn ddigon ysblennydd ar gyfer y math hwnnw o…
552: Mynd mas
Mae Dewi Sant yn eistedd yn ei sied yng nghwmni’r cathod. Mae Jeff yn gorwedd mewn hen flwch cardbord. Mae Daf yn gorwedd ar y gwely. Mae Daf eisiau mynd mas. Mae hi’n mynd at y drws a dechrau crafu. Mae Dewi Sant yn codi ac agor y drws. Mae Jeff yn bachu ar y…
551: Hwyl fawr, William Williams Pantycelyn
Mae Daf y gath yn osgoi sancteiddrwydd William Williams Pantycelyn trwy fynd allan i wneud dosbarthiadau yn ei fan. Mae hi wedi cael hen ddigon o ganu, ac at hynny, mae ganddi waith i’w wneud. Felly mae rhaid i Jeff achub y dydd, ac achub y Dreamies. Yn gyfrinachol, mae hi wedi bod yn adeiladu…
