Munud neu ddwy ar ôl i beiriant cwstard Santes Dwynwen ffrwydro, mae Mrs. Griffiths Pant y Dderwen yn troi lan. Mae bag siopa enfawr gyda hi, sydd yn llawn dop o gear. Yn ogystal â Daf y gath, sydd yn hollol anymwybodol. Mae hi’n gweld yr enwog Owain Glyndŵr, yn llefain gyda’i golandr ar ei…
Month: April 2023
569: Hwyr
Mae Owain Glyndŵr yn hwyr i’w ymarferiadau ar gyfer coroni’r Brenin Mawrglustiau. Does neb yn gwybod ble mae e. Mae Dewi Sant yn gynddeiriog. Mae’r hanner-siarc wedi bod yn jyglo gyda’i beli sbwng, er mwyn iddo fe beidio cael torgest ar ôl ei lawdriniaeth ailuno. Mae e’n clywed sŵn erchyll yn dod o du fewn…
568: Ailuniad
Mae Franz Kafka wedi dod o hyd i hanner arall y chwarter-siarc wrth ymbalfalu yn y llwyni. Roedd e’n chwilio am gig i’w roi mewn selsig. Mae Franz Kafka yn nôl y chwarter-siarc, nodwydd fawr, edau ac ychydig o casin selsig bwytadwy. Amser llawdriniaeth yw e! Am gyffrous. Dyw Franz Kafka ddim wedi gwneud llawdriniaeth…
567: Cymryd yr awenau
Wedi darganfod mai gwlithod yw ffordd dda i dynnu sylw’r enwog Owain Glyndŵr oddi wrth redeg o gwmpas yr ardd pryd bynnag mae e’n clywed y geiriau “lap o anrhydedd”, mae Dewi Sant a Jeff y gath yn pendroni sut i gludo’r lembo mawr i Lundain ar gyfer coroni’r Brenin Mawrglustiau. – Beth am i…
566: Gwlithod
Mae’n debyg bod mwydod yn ddiddorol iawn i Owain Glyndŵr. Ond ‘dyn nhw ddim yn ddigon diddorol i’w atal rhag rhedeg o gwmpas yr ardd pryd bynnag mae e’n clywed y geiriau “lap o anrhydedd.” Ond mae Jeff y gath wedi dod o hyd i wlithen anferth. Dyma Owain Glyndŵr yn rhythu ar y wlithen….
565: Uchelgeisiol
Mae’n amlwg taw rhy uchelgeisiol yw ceisio gwneud i Wir Dywysog Cymru gofio mwy nag un peth ar y pryd. – Ble mae rhaid i ti fynd ar gyfer y Coroni? gofyn Dewi Sant. Eto. – Fwwwwwwm, meddai Owain Glyndŵr. Mae e’n gorwedd ar y ddaear a chwarae gyda mwydyn. Mae e’n esgus bod y…
564: Ymarferiadau
Mae Owain Glyndŵr yn ymarfer ar gyfer coroni’r Brenin Mawrglustiau. Mae Dewi Sant wedi ei addysgu e sut i ddefnyddio’r toiled a gwneud iddo fe addo na wneith e fwyta gormod o losin a chwydu yn yr eglwys. Mae tri cham syml i Owain Glyndŵr gofio. 1. Mynd i’r eglwys gadeiriol yn Llundain. 2. Rhyddhau…
563: Gorgysgu
Mae Daf y gath wedi gorgysgu ar ôl iddi helpu ei hun i catnip o ardd Mrs. Griffiths Pant y Dderwen. Mae hi’n teimlo’n gysglyd iawn, ond does dim pen tost arni hi. Cachu da yw catnip Mrs. Griffiths. O na. Mae Daf newydd sylweddoli ei bod hi wedi methu gwneud ei dosbarthiadau beunyddiol. Dyw…
562: Seibiant
Mae Daf y gath am gael seibiant rhag yr anhrefn yn yr ardd. Dyw hi ddim yn hoffi’r enwog Owain Glyndŵr a’i forthwyl. Mae e’n beryglus o dwp. Mae hi’n mynd i weld un o’i hoff ddelwyr. Mae hi angen catnip cryf iawn. Bydd catnip Mrs. Griffiths, Pant y Dderwen, yn ddelfrydol. Gall hi fynd…
561: Morthwyl
Mae Owain Glyndŵr wedi dod o hyd i forthwyl. O na. Yn anffodus, heddiw yw’r diwrnod mae’r Archesgob wedi penderfynu ymweld â Dewi Sant. Yn waeth fyth! Mae Dewi yn ceisio cuddio cannoedd o boteli gweigion yn ei sied. Mae pawb arall yn awyddus iawn i guddio Owain Glyndŵr yn sied Dewi hefyd, ond does…
